Neidio i'r prif gynnwy

BIP Cwm Taf Morgannwg yn talu teyrnged i'r Cynghorydd Phil White, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae BIP Cwm Taf Morgannwg wedi talu ei deyrnged i'r Cynghorydd Phil White, fu farw yn ddiweddar ar ôl mynd yn sâl gyda COVID-19.

Dywedodd Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg:

“Cynigiwn gydymdeimlad dwysaf y Bwrdd Iechyd i deulu y Cyng. Philip White wedi’r newyddion am ei farw. 

“Gwasanaethodd y Cynghorydd White fel un o’n Haelodau Annibynnol am ychydig llai na dwy flynedd, o fis Tachwedd 2019. Cyn dod yn aelod annibynnol, roedd Phil hefyd yn Aelod Cyswllt o’r Bwrdd o fis Rhagfyr 2018.

“Bydd ei gyfeillion a’i gydweithwyr oll ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn ei gofio’n annwyl.

“Mae teulu, cydweithwyr agos a chyfeillion Phil yn ein meddyliau ar yr adeg anodd hon.” 

Mae teyrnged lawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i'r Cynghorydd White i’w gweld yma - https://www.bridgend.gov.uk/cy/newyddion/yr-aelodau-n-talu-teyrnged-i-r-gwr-bonheddig-perffaith-y-cynghorydd-phil-white/