Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu ein gwyrthiau bach ni ar Ddiwrnod Geni Cynamserol y Byd

Heddiw, rydyn ni’n nodi Diwrnod Babanod Cynamserol y Byd yn CTM trwy ddal i fyny gyda rhai o'r babanod bach gafodd eu geni’n gynnar i weld sut y maen nhw erbyn hyn.

Yn gyntaf heddiw, dyma hanes Isobel ac Oliver, sy’n efeilliaid gafodd eu geni wyth wythnos yn gynnar ym mis Medi y llynedd. Dyma eu mam, Sara Riley o Ben-y-bont ar Ogwr, yn esbonio:  

“Cafodd yr efeilliaid eu geni'n gynnar mewn ysbyty yng Nghaerdydd oherwydd cymhlethdod o ran twf Isobel. Treuliom ni wythnos yn Ysbyty Singleton ac yna tair wythnos yn Ysbyty Tywysoges Cymru.  Roedd hi'n anodd iawn i ni fel teulu ymweld gyda chyfyngiadau COVID ar y gweill, gan nad oedd ein plant eraill yn cael dod i'r ysbyty.

“Mae Oliver erbyn hyn yn un flwydd oed ac yn ffynnu. Mae Isobel yn iawn hefyd, ond cafodd hi ddiagnosis o ganser yn ôl ym mis Chwefror ac mae'n cael triniaeth barhaus.

“Cafodd Kenna, ein merch hŷn sy’n ddwy flwydd oed erbyn hyn, ei geni’n gynnar hefyd ar ôl 37 wythnos, ond diolch byth doedd dim angen unrhyw gymorth arni gan staff gwych yr uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Tywysoges Cymru.”

Wrth i ni barhau i ddathlu Diwrnod Babanod Cynamserol y Byd, dyma stori Evie gafodd ei geni bedair wythnos yn gynnar, ddwy flynedd yn ôl!  

Dyma Ceri Mirosevic yn sôn am hanes genedigaeth gynnar ei merch.

“Cafodd Evie ei geni yn Ysbyty'r Frenhines Alexandra yn Portsmouth. Ces i fy nerbyn i Ysbyty Tywysoges Cymru yn wreiddiol, gan mai hwn oedd yr unig ysbyty gyda lleoedd i mi gael fy nhrosglwyddo iddo.

“Rwy'n byw yn Awstria ar hyn o bryd ac roeddwn i ar wyliau yn ymweld â fy mam ym Mhorthcawl. Roedd fy ngŵr yn heicio yn yr Alban pan ddigwyddodd hyn i gyd!

“Cafodd Evie ei geni yn pwyso 890g ac roedd angen mewndiwbiad llawn arni i'w helpu i anadlu yn ystod yr wythnos gyntaf. Doedd falf fach yn ei chalon ddim yn cau. Roedd angen 3 trallwysiad gwaed arni a chafodd hi lawer o sganiau ar yr ymennydd, ond diolch byth doedd dim gwaedu. 

“Roedd hi yn yr ysbyty am gyfanswm o 97 diwrnod. Treuliodd hi hanner yr amser mewn uned gofal dwys i’r newydd-anedig yn Portsmouth, yna cafodd ei throsglwyddo mewn hofrennydd yn ôl i’r Uned Gofal Arbennig i Fabanod ym Mhen-y-bont ar Ogwr am weddill yr amser. Cafodd hi ei rhyddhau ar ei dyddiad disgwyl ac ar Ddiwrnod Babanod Cynamserol y Byd 2019.   

“Roedd hwn yn gyfnod anodd iawn a hynod o emosiynol. Diolch byth, llwyddodd Evie i wella’n gyson yn ystod ei hamser yn yr ysbyty a rhoddodd hyn lawer o obaith i ni. Fel rhieni, roedd hi’n braf bod ymysg meddygon a nyrsys gofalgar. Roedden nhw bob amser wrth law i ateb cwestiynau ac yn parhau i fod yn gadarnhaol. Roedd y nyrsys hefyd yn wych am ein cynnwys ni gymaint â phosib, fel gyda newid cewynnau, baddonau a'i chofleidio. Yn ogystal â hynny, roedd hi’n braf cwrdd â'r rhieni eraill oedd yn mynd drwy'r un peth yn yr ysbyty a siarad â nhw. 

“Aethom ni ag Evie adref ar ei dyddiad disgwyl, felly yn y bôn es i â hi adref fel y byddwn wedi gwneud hynny tasai hi ddim wedi cael ei geni’n gynnar. Erbyn hynny, roedd hi hefyd yr un faint â babi newydd-anedig cyffredin. Roedden ni mor hapus ei bod hi gartref lle roedd hi'n perthyn. Hwn oedd y teimlad gorau yn y byd. Rwy'n credu bod cael babi ddwy flynedd yn flaenorol wedi fy helpu gan fy mod i’n gwybod mwy am beth i’w ddisgwyl. Roeddwn i’n ddigon ffodus i dreulio ychydig o nosweithiau gyda hi mewn ystafell arbennig yn yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod cyn mynd â hi adref. Roedd hyn yn hynod o ddefnyddiol gan fod modd i mi glywed ei “synau” yn y nos gan wybod bod y nyrsys gerllaw pe bai rhywbeth ofnus yn digwydd.

“Erbyn hyn, mae Evie yn well nag y gallem ni ddychmygu. Mae hi'n ferch iach a hapus ac yn datblygu yn union fel y dylai. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn. Mae hi wrth ei bodd yn mynd i helynt gyda'i brawd mawr ac yn canu, ac mae hi’n siarad drwy’r amser erbyn hyn. Caeodd y falf yn ei chalon ar ei phen ei hun ar ôl rhyw 6-9 mis. 

“Rwy'n meddwl am y tîm yn yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod bob dydd. Nhw oedd y criw mwyaf caredig o nyrsys a meddygon a rhoddon nhw ofal mor wych i Evie. Treuliais i lawer o amser yn siarad â nhw ac roedd pob un ohonyn nhw mor ofalgar a chyfeillgar. Roedd hi’n siomedig iawn gorfod eu gadael nhw ar ôl i ni gael ein rhyddhau! Byddwn ni’n ddiolchgar am byth. 

“I rieni eraill sy'n wynebu profiad tebyg, dylech chi ymddiried yn y meddygon a'r nyrsys a'u holl brofiad gyda babanod cynamserol, a byddan nhw’n gwneud popeth posib i ofalu am eich babi.  Er bod y babanod yn edrych mor fach, maen nhw’n gryfach nag y byddech chi’n tybio. Peidiwch â phoeni am “gerrig milltir” na’u cymharu nhw â'ch babanod eraill neu â ffrindiau gyda babanod yr un oedran.”