Neidio i'r prif gynnwy

Cronfa COVID-19 yn hybu lles y staff ym mhob rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Drwy gydol pandemig COVID-19, mae’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn hynod o ddiolchgar i gael llwyth o roddion ariannol oddi wrth y cyhoedd, gyda llawer ohonyn nhw’n dweud eu bod nhw am gyfrannu at wella lles y staff. 

Cafodd staff CTM eu holi ynglŷn â sut orau i ddefnyddio’r arian hwn i wella eu lles yn y gwaith.  Ar ôl cael llawer o adborth, cafodd yr arian ei ddefnyddio i brynu amrywiaeth o eitemau, fel deunydd golchi ar gyfer ein nyrsys o dramor, bwyd a diod, setiau teledu, dyfeisiau iPad ar gyfer hyfforddiant y staff, nwyddau gwynion ar gyfer lolfeydd y staff, a llawer mwy. 

Un cais cyffredin oedd gosod meinciau y tu allan er mwyn i’r staff eistedd arnyn nhw ac ymlacio yn ystod eu seibiant. Mae’r Bwrdd Iechyd wrthi’n ceisio gwella’r gerddi yn yr awyr agored, a bydd hyn hefyd yn rhoi hwb i les y staff. 

Meddai Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Diolch o galon i’n cymuned am eu holl roddion i’n Bwrdd Iechyd yn ystod y pandemig. Mae’r cyfnod hwn wedi bod yn eithriadol o anodd i’n staff ac rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i’n cymuned am eu holl gefnogaeth.  Byddwn ni’n parhau i ddefnyddio’r arian i wella’r gwasanaeth lles rydyn ni’n ei gynnig i’n gweithlu, sef ein hased bwysicaf oll. Mae ein staff wedi gweithio’n ddiflino, nid yn unig yn ystod COVID-19, ond bob dydd wrth eu gwaith, ac maen nhw’n gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth yn fawr.

Un ardal lle mae’r staff lles wedi elwa o’r meinciau yw ein Canolfan Gyfathrebu yn Nhrewiliam.  Pan ddaeth y Tîm Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i Drewiliam, roedd seibiannau i’r staff yn fwy heriol ac roedd cadw pellter cymdeithasol yn fwy cyffredinol.  

Meddai Karen Winder, Rheolwr Tîm TGCh CTM: “Diolch i gronfa lles y staff, rydyn ni wedi prynu meinciau er mwyn i’r staff fanteisio ar yr awyr agored. Maen nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer seibiannau’r staff, yn ogystal â chyfarfodydd y staff, sy’n galluogi timau i gael awyr iach wrth gadw pellter cymdeithasol.

“Bydd y man hwn yn bwysicach fyth wrth i ragor o’r staff ddychwelyd i’r swyddfa, a’r gobaith yw y bydd y man hwn yn yr awyr agored yn rhoi cyfle iddyn nhw gael seibiant y tu hwnt i’w desg.”

Meddai Clare Wright, Arweinydd Strategol ar gyfer Lles yn BIP CTM: “Mae hon yn adeg bwysicach nag erioed i staff y GIG gael cymorth gan eraill a threulio amser yn gofalu am eu lles eu hunain bob dydd. Mae staff y GIG yn rhoi gofal anhygoel i bobl eraill, ond yn aml maen nhw’n ei chael hi’n anoddach gofalu amdanyn nhw eu hunain. Mae’r gwasanaeth lles gerllaw i roi cymorth i’r staff sy’n cael anawsterau, yn ogystal â galluogi pawb i gadw’n iach.  Mae’r rhoddion oddi wrth y cyhoedd wedi cyfrannu’n fawr at helpu ein staff, felly diolch.”

Os ydych chi’n aelod o’r staff ac am fanteisio ar y gronfa lles i wella eich lles, e-bostiwch y gwasanaeth lles ar CTM.WellbeingService@wales.nhs.uk