Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yw'r cyntaf yng Nghymru i fynd i'r afael â stigma iechyd meddwl yn y gweithle

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl 2021 (Hydref 3 - 9), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Amser i Newid Cymru yn tynnu sylw at ei bartneriaeth arwyddocaol sydd wedi arwain at greu modiwl hyfforddi i chwalu stigma iechyd meddwl mewn lleoliadau gofal iechyd.  

Rydym ar ben ein digon mai ni yw’r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i dreialu modiwl hyfforddi newydd gydag Amser i Newid Cymru. 

Gyda'r nod o lunio hyfforddiant iechyd meddwl i staff gofal iechyd at y dyfodol, cynlluniwyd y modiwl i arfogi staff i wella profiadau byw a chanlyniadau iechyd unigolion sydd gyda phroblemau iechyd meddwl ledled Cwm Taf Morgannwg, a hynny drwy dynnu sylw’n well at sut, a ble, y gall profiadau o stigma iechyd meddwl godi yn y gweithle. 

Edrychodd arolwg Amser i Newid Cymru yn 2020 ar y cysylltiad rhwng COVID-19 a stigma iechyd meddwl. Tynnodd sylw at leoliadau gofal iechyd fel un o'r meysydd pwysicaf lle mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn wynebu stigma yng Nghymru. (Stigma yn ystod arolwg COVID-19, Amser iNewid Cymru, Mehefin 2020.)

Yn ogystal, dangosodd arolwg 2021 yr ymgyrch gwrth-stigma (gydag oedolion 16+ oed sy'n byw yng Nghymru) ynghylch Agweddau'r Cyhoedd at Salwch Meddwl fod 15% o'r rhai a holwyd o’r farn eu bod wedi gweld person yn cael ei drin yn annheg gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol (cynnydd o 4% yn 2019).

Mae arweinwyr iechyd meddwl yn ein Bwrdd Iechyd wedi gweithredu ar yr ymchwil hon, a dros y misoedd diwethaf maen nhw wedi gweithio'n agos gydag Amser i Newid Cymru i ddatblygu cyfres o ffilmiau a deunyddiau hyfforddi sy'n tynnu sylw at brofiadau pobl yng Nghymru.

Yn y fideos byr hyn , mae rhai o'n staff iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn siarad yn angerddol am pam mae chwalu stigma iechyd meddwl mewn gofal iechyd mor bwysig.

Dywedodd Dr Andrea Davies, Arweinydd Prosiect Cwm Taf Morgannwg a Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol a Seicotherapydd Systemig: "Mae'r 18 mis diwethaf wedi effeithio arnom ni i gyd ac yn fwy nag erioed, mae angen i ni ofalu am ein gilydd a sicrhau bod pobl sy'n wynebu anawsterau iechyd meddwl yn gallu derbyn y cymorth cywir.

"Drwy gydweithio ag Amser i Newid Cymru, rydym ni (Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg) yn gobeithio mynd i'r afael yn effeithiol â stigma mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hwn yn gyfle gwych i wella'r profiadau i'r rhai sy'n derbyn gofal ac sy’n rhoi gofal ar draws ein rhanbarth, ac i ddysgu ein  partneriaid yn y Bwrdd Iechyd.

"Drwy agor trafodaeth am stigma, rydym yn gobeithio annog gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i fyfyrio ac yn gobeithio eu cefnogi i weithredu i fynd i'r afael â stigma. Drwy'r hyfforddiant hwn, rydym am rymuso a pharatoi ein staff i fyfyrio ar eu harfer presennol a gwella profiadau cleifion â phroblemau iechyd meddwl mewn ffordd anfeirniadol.

Mae gwasanaethau iechyd meddwl ein Bwrdd Iechyd wedi cyfrannu'n llawn at y deunydd hyfforddi ac maen nhw’n falch o fod wedi ffurfio partneriaeth ag Amser i Newid Cymru wrth ddatblygu’r hyfforddiant. Rydym wedi bod yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth rydym wedi ei chael gan y tîm cenedlaethol."

Dywedodd Ben Jeffreys, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru, "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar y fenter hynod bwysig hon i ddileu'r stigma iechyd meddwl mewn lleoliadau gofal iechyd ac i wella profiad cyffredinol cleifion ar draws ei wasanaethau. Wrth ddod allan o bandemig y Coronafeirws byd-eang, mae mynd i'r afael â stigma bellach yn bwysicach nag erioed os ydym am weld cymdeithas fwy tosturiol a goddefgar yng Nghymru. 

"Rydym yn gobeithio y bydd ein modiwl hyfforddi sydd wedi'i saernïo'n ofalus yn grymuso staff iechyd meddwl i ddarparu eu gwasanaethau heb stigma a barn i sicrhau gwell profiad i gleifion. Byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda BIP CTM wrth werthuso'r modiwl hyfforddi cyn dechrau cyflawni hyn mewn Byrddau Iechyd ledled y wlad." 

Rhan o’r hyfforddiant fydd cynnal gwerthusiad gyda chynrychiolwyr, i fesur effaith yr hyfforddiant a'i effeithiolrwydd o ran gwella profiadau cleifion a staff ar draws lleoliadau a gwasanaethau gofal iechyd.

Mae Amser i Newid Cymru yn bwriadu cyflwyno'r hyfforddiant yn ehangach mewn Byrddau Iechyd ledled Cymru yn y dyfodol.