Ap clinigol effeithiol wedi’i gymeradwyo gan y GIG ar gyfer atal, sgrinio a thrin gorbryder, iselder a straen.
Mae Thrive yn cynnig sawl gwasanaeth iechyd meddwl yn yr un lle gan ddarparu technegau ac adnoddau seicolegol i helpu i ddatblygu cadernid, rheoli straen ac ymdopi â gorbryder.
Lawrlwythwch yr ap Thrive Mental Wellbeing am ddim o siop apiau Apple neu Android. Cofrestrwch gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost, eich dewis gyfrinair a’ch cod mynediad HS+STAYPOSITIVE. Yna dilynwch y camau i gadarnhau eich cyfrif.