Mae bod yn bwysau iach yn cefnogi iechyd corfforol a meddyliol. Mae pobl â phwysau iach yn byw yn hirach ac mae cyfran uwch yn rhydd o anabledd ac afiechyd.
Gall pwysau iach helpu i atal nifer o afiechydon cronig gan gynnwys diabetes, clefyd y galon, canser a strôc, yn ogystal â lleihau effaith cyflyrau eraill fel arthritis.
Mae tîm Pwysau Iach Cwm Taf Morgannwg yn gweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol, grwpiau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus allweddol i adeiladu cymunedau iachach, lle mae'r dewis iach yn ddewis hawdd a phobl yn cael eu cefnogi i fyw bywydau iach, hapus a ffyniannus. Mae’r dull system gyfan hwn yn canolbwyntio ar y darlun ehangach yn hytrach na cheisio newid un peth bach ar y tro.
Gwneud y dewis iach yn ddewis hawdd tra'n darparu cefnogaeth ddiwyro i unigolion sy'n ymdrechu i fyw bywydau iach, hapus a llewyrchus.
Wrth wraidd ein strategaeth mae dull cyfannol, system gyfan, sy’n canolbwyntio ar y ffactorau parhaol, gwaelodol sy’n gyrru gordewdra yn hytrach na dim ond mynd i’r afael ag ymddygiadau unigol ar eu pen eu hunain.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid ar draws Cwm Taf Morgannwg. Trwy wahanol ddigwyddiadau a rhyngweithiadau un-i-un, rydym wedi gwrando'n ddiwyd ar eu mewnwelediad ar achosion sylfaenol gordewdra yn ein cymunedau. Ein meysydd ffocws hollbwysig yw:
Byddwn yn gweithio ar y meysydd ffocws uchod drwy’r themâu sy’n cael eu nodi isod:
I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth Pwysau Iach, Cymru Iach Llywodraeth Cymru, ewch i Pwysau Iach: Cymru Iach.
I gael rhagor o wybodaeth am Bwysau Iach yng Nghymru, ewch i Pwysau Iach - Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Bwysau Iach yn ardal Cwm Taf Morgannwg, cysylltwch â CTM.HealthyWeight@wales.nhs.uk.