Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC)

 

Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn ddull newid ymddygiad sy’n defnyddio’r sgyrsiau bob dydd y mae sefydliadau ac unigolion yn eu cael gyda phobl eraill i’w cefnogi i wneud newidiadau cadarnhaol i’w hiechyd a’u lles corfforol a meddyliol.

Trwy Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif, mae’n bosibl manteisio ar gyfleoedd i roi gwybodaeth gyson a chryno am ffyrdd iach o fyw ac mae’n galluogi unigolion i gymryd rhan mewn sgyrsiau am eu hiechyd ar draws sefydliadau a phoblogaeth.

 

Yng Nghwm Taf Morgannwg, mae GBCG yn canolbwyntio ar y ffyrdd o fyw sy’n gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’n hiechyd:

  • Bwyta’n iach
  • Rhoi'r gorau i ysmygu
  • Bod yn fwy heini 
  • Yfed alcohol o fewn y canllawiau a argymhellir
  • Gofalu am ein lles
  • Cael imiwneiddiadau pan fo angen
  • Cymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio    


Mae tîm GBCG yn cefnogi darparu hyfforddiant i staff ar draws Awdurdodau Lleol, y GIG a’r trydydd sector yn ardal Cwm Taf Morgannwg.

 

Adnoddau

I gael rhagor o wybodaeth am GBCG yng Nghymru, ewch i Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif - Iechyd Cyhoeddus Cymru  / Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus MECC (Amdanom ni).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am GBCG yn ardal Cwm Taf Morgannwg, cysylltwch â PHW-MECC.CTM@wales.nhs.uk.

 

Dilynwch ni: