Beth yr ydych yn gweithio arno: Gwella Iechyd / Penderfynyddion ehangach (gan gynnwys iechyd a thai, Ysgolion Iach, Iechyd Rhywiol, Pwysau Iach, Rhoi'r Gorau i Ysmygu, Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC), mewnwelediad ymddygiadol, camddefnyddio alcohol a sylweddau, 3P).
Eich Cefndir: Cyn hynny roedd Rob yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus dros dro ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan arwain ar Blant a Phobl Ifanc, Partneriaethau Rhanbarthol ac Anghydraddoldebau Iechyd / Penderfynyddion Ehangach.
Mae Rob yn Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus. Enillodd Faglor Meddygaeth a Baglor Llawfeddygaeth yn 2012 yn ogystal â Diploma mewn Meddygaeth Drofannol yn 2016. Yna aeth ymlaen i gwblhau gradd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd a MFPH.
Treuliodd Rob amser yn gweithio yn Seland Newydd fel Cofrestrydd Meddygol cyn dechrau ei hyfforddiant cofrestrydd Iechyd y Cyhoedd yn Lerpwl. Yn ystod ei hyfforddiant, aeth yn ôl i Seland Newydd i weithio fel Cynorthwyydd Ymchwil, yna dychwelodd i'r DU i gwblhau hyfforddiant cofrestrydd IC.
Beth yr ydych yn gweithio arno: Rwy'n arwain gweithrediad y Dull System Gyfan ar gyfer Pwysau Iach
Eich Cefndir: Yn dilyn blynyddoedd lawer yn gweithio yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, Tîm Gorfodi Bwyd a Ffermydd, fel Swyddog Safonau Masnach, datblygais ddiddordeb brwd mewn Gwella Iechyd. Agwedd anstatudol o fy rôl oedd fy ngweld yn cefnogi arlwywyr bwyd i ennill Gwobr Opsiynau Iach ac yn fuan des i’n Gydlynydd RhCT, ochr yn ochr â'm swyddogaeth statudol. Yn y rôl hon, gweithiais gyda sefydliadau cenedlaethol ac awdurdodau lleol ledled Cymru. Fe wnaeth y ffordd hon o weithio a chyflawni fy ngwneud i eisiau gwybod a dysgu mwy am arwain a galluogi newid ar draws systemau ac felly cofrestrais ar Radd Meistr Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol De Cymru. Yn ystod y cyfnod hwnnw, parheais i feithrin perthnasoedd yn y system iechyd cyhoeddus, llawer ohonyn nhw yn CTM ac ar ddiwedd fy ngradd Meistr cefais leoliad mis gyda chomisiynydd Swyddfa Cenedlaethau’r Dyfodol lle gwelais y rôl arweinyddiaeth hon ar waith. Ymunais ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2017 ac rydw i wedi gweithio ar draws portffolio amrywiol ers hynny, gan gynnwys Helpa Fi i Stopio, Cymru Iach ar Waith, Pwysau Iach, Iechyd Rhywiol, MECC (Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif), Tybaco, Cyn Diabetes, Diogelu Iechyd a nawr fel rhan o'r Agwedd System Gyfan tuag at Bwysau Iach. Fe wnaeth y contractau tymor byr amrywiol hyn fy helpu i ddatblygu fy ngwybodaeth a sgiliau mewn sawl agwedd ar atal ac adeiladu’n barhaus ar berthnasoedd yr wyf yn eu gwerthfawrogi’n fawr. Fel aelod o Fwrdd Cynghori Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru rydw i’n gobeithio parhau i feithrin perthnasoedd yn y system ac addo rhannu dysgu, arfer gorau a chymorth i feithrin gallu yn y system iechyd cyhoeddus.
Fel un o drigolion RhCT, rydw i’n angerddol am greu lleoedd lle gall trigolion ffynnu a sicrhau bod iechyd yn cael ei integreiddio yn ein cymunedau i bawb, gan gynnwys ein cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol.
Beth yr ydych yn gweithio arno: Ar hyn o bryd rwy'n cefnogi cyflawniad y cynllun strategol ar gyfer diabetes, gan helpu i gryfhau ecwiti a chyfranogiad ar draws llwybrau diabetes. Rydw i hefyd yn arwain y gwaith dosbarthu rhanbarthol o Siarter Teithio Iach ac yn cefnogi gwaith rheoli pwysau clinigol ledled BIP Cwm Taf Morgannwg.
Eich cefndir: Mae gen i tua 20 mlynedd o brofiad academaidd a phroffesiynol ar draws gweithgarwch corfforol, maeth ac iechyd cyhoeddus. Ymunais â thîm iechyd cyhoeddus CTM ym mis Ionawr 2018 ac rydw i wedi gweithio ar draws amrywiaeth eang o raglenni, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC), gofal sylfaenol, dulliau systemau cyfan ar gyfer pwysau iach, a diogelu iechyd.
Cyn symud i iechyd y cyhoedd, treuliais dros ddegawd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, gan weithio ar fentrau gwella gweithgarwch corfforol ac iechyd. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS), y Rhaglen Gofal y Cymalau Cymunedol (JCP) a STARS.
Rydw i wedi cynnal diddordeb academaidd cryf drwy gydol fy ngyrfa, gan astudio ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Mae gen i radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Maeth, Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd Cymunedol (BSc), gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus (MPH), a sawl cymhwyster ymarfer corff arbenigol.
Beth yr ydych yn gweithio arno: Rydw i’n cefnogi gweithredu Dull System Gyfan ar gyfer Pwysau Iach yng Nghwm Taf Morgannwg (CTM) lle rydw i ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar gefnogi gwaith yn ardal Treherbert CTM.
Eich Cefndir: Mae gen i radd dosbarth cyntaf mewn Maetheg, Gwyddor Bwyd ac Iechyd, rydw i wedi gweithio yn y GIG ers 2008 ac wedi dechrau mewn rôl yn gweithio fel Cynorthwyydd Dieteg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Rydw i wedi bod yn Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd ers 12 mlynedd ac wedi gweithio ar ystod eang o feysydd pwnc yn ystod y cyfnod hwn gan gynnwys datblygu'r Rhaglen Gofal y Cymalau a'r Rhaglen Gofal y Cymalau a Mwy, Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif, Ymyrraeth Fyr Alcohol, Cyfryngau Cymdeithasol Cychwyn Iach, Dyfodol Iach, Rhaglen MEND, ymwneud â datblygu'r Ffactorau Risg sy’n agored i niwed ac Ymyriadau yn y map tystiolaeth Blynyddoedd Cynnar, wedi cefnogi Grwpiau Cymorth Rheoli Pwysau Cymunedol. Mae fy rôl hefyd wedi cynnwys bod yn Ymarferydd Cynllun Cyn-Ysgolion Iach a Chynaliadwy am 18 mis. Rydw i hefyd wedi cael cyfle i secondiad 12 mis ar lefel uwch gyda thîm PIPYN Merthyr yn 2023. Rydw i’n wrth fy modd â'r elfen gydweithio a phartneriaeth yn fy rôl ac os ydw i’n gweld cyfle i wneud gwahaniaeth, rydw i’n wneud fy ngorau i wneud iddo ddigwydd!
Mae gen i angerdd i helpu teuluoedd a phlant ifanc yn yr ardal leol i fyw bywydau iachach, hapusach a mwy actif.
Beth yr ydych yn gweithio arno: Rwy'n gweithio yn y tîm Pwysau Iach yn darparu cymorth gweinyddol ac adnoddau i'r tîm sy'n gweithio ar ddull system gyfan o ymdrin â phwysau iach yn CTM.
Eich Cefndir: Rwyf wedi gweithio mewn nifer o rolau cymorth busnes a gweinyddol ar draws amrywiol ddiwydiannau cyn ymuno â CTM. Mae fy nghefndir yn cynnwys rolau yn y sector yswiriant, addysg uwch a rheoli cwmni adeiladu sy'n arwain at set sgiliau cyflawn mewn gweithrediadau, trefniadaeth a chymorth strategol.
Enw: Shakira Leslie
Teitl swydd: Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd
Beth yr ydych yn gweithio arno: Rydw i ar rôl secondiad o fewn y tîm Pwysau Iach, bydd fy meysydd gwaith yn cefnogi gweithredu dull System Gyfan ar gyfer Pwysau Iach yn y tîm Pwysau Iach, yn enwedig o amgylch yr amgylchedd bwyd.
Cefndir: Mae fy ngyrfa ym maes iechyd y cyhoedd yn ymestyn dros 15 mlynedd, ac rydw i wedi gweithio mewn timau iechyd cyhoeddus cenedlaethol a rhanbarthol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Cwm Taf Morgannwg (CTM).
Mae fy mhrofiad fel ymarferydd wedi amrywio o wahanol rolau. Rydw i wedi cyflwyno rhaglen atal 'di-fwg' JUSTB i ysgolion uwchradd ledled Cymru. Rydw i wedi cydlynu a rheoli prosiect rhaglen Teuluoedd Iach HENRY ar draws CTM – gan sefydlu a gweithredu cyflwyniad a gwerthuso'r rhaglen. Yn ogystal, rydw i wedi gweithio ar nifer o feysydd pwnc a rhaglenni gwella iechyd mewn rheoli tybaco, gan wneud i bob cyswllt gyfrif (GBCG) ac iechyd y cyhoedd gofal iechyd – yn benodol ar ganser a sgrinio.
Yn gynnar yn fy ngyrfa, gweithiais yng Ngwasanaeth Ieuenctid Cyngor Caerdydd, gan gefnogi pobl ifanc 11-25 oed yn eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, cyn symud ymlaen i dîm Dieteteg Iechyd Cyhoeddus BIP Caerdydd a'r Fro, lle datblygais a chyflwynais fentrau maeth a gweithgarwch corfforol i deuluoedd mewn lleoliadau ysgolion cynradd. Ar ben hynny, gweithiais mewn tîm ffisiotherapi ar ward orthopedig yn yr ysbyty, gan ddysgu ymarferion i gleifion ar ôl llawdriniaeth i helpu gyda'u hadferiad ar ôl llawdriniaeth ar y glun, y pen-glin a'r asgwrn cefn.
Mae gen i ddiddordebau mewn anghydraddoldebau iechyd, iechyd menywod, ac iechyd plant a phobl ifanc. Rydw i yn fy mlwyddyn olaf o radd meistr iechyd cyhoeddus sydd wedi bod o fudd i mi o ran gwella fy sgiliau a'm gwybodaeth am iechyd cyhoeddus.
Beth rydych chi'n gweithio arno ar hyn o bryd:
Ar hyn o bryd, rwy'n cefnogi gweithredu'r Dull System Gyfan ar gyfer Pwysau Iach a'r tîm Tybaco, Nicotin a Fêps ledled BIP Cwm Taf Morgannwg.
Cefndir:
Graddiais yn 2020 gyda gradd mewn Niwrowyddoniaeth ac mae gen i brofiad o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Yn 2023, ymunais â'r GIG a dechreuais fy ngyrfa ym maes Iechyd Cyhoeddus gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, lle cefnogais weithredu'r Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Lles Emosiynol a Meddyliol. Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, cyfrannais hefyd at raglenni a oedd yn canolbwyntio ar leoliadau addysg, lles meddyliol, a gwybodaeth i rieni.
Yn 2025, ymunais â Thîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg i gefnogi mentrau iechyd cyhoeddus lleol a gweithio'n agosach gyda chymunedau ledled y rhanbarth.
Rwy'n angerddol am fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac annhegwch iechyd, hyrwyddo'r Gymraeg, a gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc. Mae fy meysydd diddordeb yn cynnwys lles meddwl a dibyniaeth.