Neidio i'r prif gynnwy

Canser - Canfod yn Gynnar

 

Arwyddion a Symptomau Canser

Mae canfod canser yn gynnar yn golygu bod triniaeth yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus. Mae'n bwysig gwybod arwyddion a symptomau canser a chysylltu â meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol os nad yw rhywbeth yn ymddangos yn iawn.

I gael rhagor o wybodaeth am symptomau ac arwyddion canser, ewch i:

 

Sgrinio Canser

Nod sgrinio yw canfod camau cynnar clefyd neu atal clefyd rhag digwydd o gwbl. Mae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a allai fod mewn mwy o berygl o gael clefyd neu gyflwr; yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a thriniaeth briodol iddynt i leihau eu risg a/neu unrhyw gymhlethdodau sy'n deillio o'r clefyd neu'r cyflwr. 

Mae pobl yng Nghymru sydd wedi cofrestru gyda meddyg yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn tair rhaglen sgrinio canser genedlaethol, Sgrinio Canser y Coluddyn, Canser y Fron a Chanser Ceg y Groth. Mae sgrinio am ganser yn cael ei gynnig i'r bobl sy'n fwyaf tebygol o elwa ohono.

  • Mae menywod a phobl sydd â serfics rhwng 25 a 64 oed yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio serfigol bob 5 mlynedd - Sgrinio Serfigol Cymru.
  • Mae menywod rhwng 50 a 70 oed yn cael eu gwahodd am belydr-x o’r fron ar gyfer sgrinio am ganser y fron bob 3 blynedd - Bron Brawf Cymru.
  • Ar hyn o bryd bydd pobl 55 i 74 oed yn cael cynnig sgrinio'r coluddyn bob 2 flynedd. Mae hyn yn cael ei ostwng i grwpiau oedran iau. Gweler tudalen Sgrinio Coluddion Cymru am yr ystod oedran fwyaf diweddar - Sgrinio Coluddion Cymru.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am yr holl Raglenni Sgrinio yng Nghymru.

Dilynwch ni: