Neidio i'r prif gynnwy

Ysgolion a Chyn-Ysgolion Iach

 
Cynllun Ysgolion Iach Cwm Taf Morgannwg

Mae llywodraethau a chymunedau ysgolion yn cydnabod bod iechyd, lles a chanlyniadau addysgol wedi’u cydblethu’n agos a bod ysgolion yn lleoliadau pwysig ar gyfer dylanwadu ar iechyd a lles myfyrwyr, teuluoedd, staff a’r gymuned ehangach. Lansiwyd Rhwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru (WNHSS) ym 1999 fel fframwaith cenedlaethol o gynlluniau ysgolion iach lleol (un ym mhob un o’r 22 ardal Awdurdod Lleol), gyda chyfrifoldebau cenedlaethol a lleol. Mae pob cynllun lleol yn gyfrifol am gefnogi datblygiad ysgolion sy’n hybu iechyd yn eu hardal. Mae Cynllun Ysgolion Iach Cwm Taf Morgannwg (CTM) yn cynnwys tri Chynllun Awdurdod Lleol, ac yn ffurfio rhan o WNHSS. Mae pob ysgol a gynhelir yn CTM wedi'i chofrestru ar Gynllun Ysgolion Iach CTM. Nod WNHSS yw cefnogi ysgolion i ddod yn sefydliadau sy’n hybu iechyd yn unol â meini prawf cenedlaethol ysgolion iach. Cefnogir ysgolion gan ddulliau gweithredu cyffredinol ‘dull lleoliad ysgol gyfan’ sy’n ceisio dylanwadu ar yr amgylchedd, y polisi a’r arfer mewn lleoliad er mwyn galluogi gwell iechyd a lles. Mewn ysgol, mae hyn yn golygu darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ymgorffori dull ysgol gyfan ar bwnc penodol sy’n ymwneud ag iechyd er mwyn gwneud y gorau o ddiogelwch, iechyd a lles plant, pobl ifanc, staff a’r gymuned ehangach yn awr ac yn y dyfodol.

Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ar draws iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg i gysoni cymorth, hyfforddiant ac adnoddau.


Y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy

Mae’r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy (HSPSS) yn cydnabod gwerth ymyriadau cynnar a’i nod yw darparu fframwaith strwythuredig i ddatblygu ac integreiddio dulliau holistaidd o hybu iechyd a lles ar draws y lleoliad cyfan a’i gymuned. Mae’r HSPSS wedi esblygu o Rwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru sydd wedi’i hen sefydlu, a chafodd ei ddatblygu a’i gyflwyno yn 2012.

Mae'r Cynllun wedi'i anelu at bob darparwr gofal plant cyn-ysgol ar draws CTM, gan weithio'n bennaf gyda'r lleoliadau hynny yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod buddsoddi ym mlynyddoedd cynnar bywyd yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar iechyd, datblygiad cymdeithasol ac addysgol plant a’u canlyniadau hirdymor. Neilltuir Ymarferydd Cyn-Ysgol i bob lleoliad sy'n cefnogi lleoliadau trwy'r Cynllun. Mae grŵp llywio aml-asiantaeth yn darparu llywodraethu lleol.

Mewn perthynas â’r Cynllun hwn, mae’r term “cynaliadwy” yn cyfeirio at ystyried materion sy’n ymwneud â lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ein cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol.


Adnoddau

I gael rhagor o wybodaeth am gynlluniau Ysgolion a Chyn-ysgolion Iach yng Nghymru, ewch i Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Cynlluniau yn ardal Cwm Taf Morgannwg, cysylltwch â’r Cydlynydd Lleoliadau Addysg Iach yn CTMhealthyschandpre-sch@wales.nhs.uk.

 

Dilynwch ni: