Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd y Boblogaeth a Rheoli Iechyd y Boblogaeth


Gall Rheoli Iechyd y Boblogaeth gwella iechyd y boblogaeth drwy gynllunio a darparu gofal rhagweithiol a yrrir gan ddata er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl ar iechyd a lles y boblogaeth.

I wneud hyn, defnyddir setiau data cysylltiedig i segmentu, haenu a modelu’r carfannau lleol ‘mewn perygl’ a ‘risg cynyddol’ sydd yn eu tro yn cael eu defnyddio i ddylunio, targedu a phersonoli ymyriadau i ddarparu gofal rhagweithiol a chyffredinoliaeth gymesur i leihau anghydraddoldebau iechyd.

Yng Nghwm Taf Morgannwg, rydym wedi cysylltu data gofal sylfaenol ac eilaidd yn llwyddiannus ac wedi cymhwyso modelau segmentu poblogaeth a haeniad risg i ddeall ein poblogaeth a’u hanghenion yn well. Drwy grwpio pobl yn y modd hwn mewn perthynas â'u hangen a'u defnydd o wasanaethau gofal iechyd, gall fod o gymorth i benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio amser ac adnoddau cyfyngedig i ddarparu gofal rhagweld ac ataliol.

Iechyd y Boblogaeth a Rheoli Iechyd y Boblogaeth – sut maent yn berthnasol?

Beth yw dull Iechyd y Boblogaeth?

Mae bod yn iach yn fwy na pheidio â bod yn sâl. Mae dull iechyd y boblogaeth yn ceisio gwella iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol pawb sy'n byw neu'n gweithio yn ardal Cwm Taf Morgannwg (CTM). Rhan bwysig arall o wella iechyd y boblogaeth yw sicrhau bod gwahaniaethau rhwng grwpiau a phoblogaethau yn cael sylw, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal i dyfu, byw, gweithio a ffynnu ar draws y bwrdd iechyd cyfan.

Sut mae Rheoli Iechyd y Boblogaeth yn gysylltiedig ag Iechyd y Boblogaeth?

Mae Rheoli Iechyd y Boblogaeth (PHM) yn cefnogi ac yn galluogi gwelliannau yn iechyd y boblogaeth ac mae'n ffordd o reoli iechyd a gofal cymdeithasol yn rhagweithiol. 

Pan gaiff ei weithredu'n llawn ac yn effeithiol, gall PHM helpu i greu'r 'edau aur' o lefel unigol i lefel Bwrdd Iechyd. Mae hyn yn cynnwys helpu gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, fel eich meddyg teulu neu Nyrsys practis, i ddefnyddio data i ddeall beth sy'n achosi iechyd gwael yn eu practis lleol neu ardal glwstwr i gefnogi ailgynllunio iechyd a gofal - 'gofal iawn, yr amser iawn, y tîm iawn' .  Mae hefyd yn galluogi cynllunio strategol mwy effeithiol ar draws yr holl ardal CTM, gan ddeall anghydraddoldeb ac amrywiad direswm er mwyn gallu cydweithio fel system i ddyrannu adnoddau i wella neu reoli cyflyrau cleifion a diwallu eu hanghenion.

Dilynwch ni: