Neidio i'r prif gynnwy

Sgrinio

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu’r rhaglenni sgrinio cenedlaethol canlynol ar sail poblogaeth ledled Cymru.

Sgrinio Cyn Geni a Babanod Newydd-anedig
  • Bydd menywod beichiog yn cael cynnig profion sgrinio cyn geni yn ystod eu beichiogrwydd i wirio eu hiechyd ac iechyd eu babi. Bydd bydwraig yn esbonio'r gwahanol brofion y gallwch eu cael fel rhan o'ch gofal cyn geni arferol. - Sgrinio Cyn Geni Cymru.
  • Mae babanod yn cael cynnig sgrinio smotyn gwaed babanod newydd-anedig (pigiad ar y sawdl) fel arfer 5 diwrnod ar ôl cael ei eni - Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru.
  • Mae babanod yn cael cynnig sgrinio clyw babanod newydd-anedig fel arfer o fewn wythnos gyntaf eu bywyd neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny - Sgrinio Clyw Babanod Cymru.
Sgrinio i Oedolion
Sgrinio Canser
  • Bydd menywod a phobl sydd â serfics rhwng 25 a 64 oed yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio serfigol bob 5 mlynedd - Sgrinio Serfigol Cymru.
  • Bydd menywod rhwng 50 a 70 oed yn cael eu gwahodd i gael prawf pelydr-X o’r fron ar gyfer sgrinio am ganser y fron bob 3 blynedd - Bron Brawf Cymru.
  • Ar hyn o bryd bydd pobl 55 i 74 oed yn cael cynnig sgrinio'r coluddyn bob 2 flynedd. Mae hyn yn cael ei ostwng i grwpiau oedran iau. Gweler tudalen Sgrinio Coluddion Cymru am yr ystod oedran fwyaf diweddar - Sgrinio Coluddion Cymru.
Dilynwch ni: