Neidio i'r prif gynnwy

Camddefnyddio Alcohol a Sylweddau

 

Camddefnyddio Alcohol a Sylweddau

Mae camddefnyddio alcohol yn fygythiad mawr i iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae wedi'i nodi fel ffactor achosol mewn dros 200 o gyflyrau meddygol.

Nid oes terfyn diogel ar yfed alcohol. Mae yfed hyd yn oed symiau isel o alcohol yn cynyddu'r risg o glefydau fel canser. Er mwyn cadw risgiau iechyd o alcohol i lefel isel, mae'n fwy diogel peidio ag yfed mwy na 14 uned yr wythnos yn rheolaidd.

Mae'r risg o ddatblygu ystod o broblemau iechyd yn cynyddu po fwyaf y byddwch yn yfed yn rheolaidd. Os ydych chi'n dymuno lleihau faint rydych chi'n ei yfed, ffordd dda o helpu i gyflawni hyn yw cael sawl diwrnod heb yfed alcohol bob wythnos.
 

Adnoddau

I gael cyngor a chymorth ynglŷn â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, cysylltwch â’r Pwynt Cyswllt Cyntaf ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol (DASPA) ar 0300 333 000, neu ewch i DASPA – PWYNT CYSWLLT CYNTAF AR GYFER CYFFURIAU AC ALCOHOL.

I gael cyngor a chymorth ynghylch camddefnyddio cyffuriau ac alcohol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch ag AADAS ar 01792 530719. Mae AADAS yn cynnig pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer asesiadau, gwybodaeth a chyngor am alcohol a chyffuriau i bobl sy'n pryderu am eu defnydd o sylweddau a'r rhai sy'n ceisio cymorth a chyngor cyfrinachol oherwydd pryder am ffrind neu aelod o'r teulu.

I gael rhagor o wybodaeth am gamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, ewch i Camddefnyddio Sylweddau - Cyffuriau ac Alcohol.

Dilynwch ni: