Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ffisiotherapi Niwroleg Cleifion Allanol

Beth rydyn ni’n ei wneud

Mae’r Gwasanaeth Ffisiotherapi Niwrolegol yn arbenigo ar drin pobl gyda chyflwr niwrolegol o ganlyniad i niwed i’w hymennydd, eu hasgwrn cefn neu eu nerfau.

Mae’r rhain yn cynnwys cyflyrau fel strôc, sglerosis gwasgaredig a chlefyd Parkinson yn ogystal â llawer o gyflyrau eraill sy’n llai cyffredin.

Bwriad y gwasanaeth yw gwella gweithrediadau pobl. Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu trwy sesiynau un wrth un neu drwy sesiynau grŵp. Cewch chi raglen gynhwysfawr i adsefydlu drwy ymarfer corff yn y cartref, fydd yn eich helpu chi i adsefydlu’n annibynnol ac yn rhoi’r sgiliau i chi allu trin eich cyflwr eich hun.

 

I bwy mae’r gwasanaeth?

Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer oedolion gyda chyflyrau niwrolegol. Bydd angen i chi allu mynd i apwyntiad claf allanol yn rheolaidd.

 

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Bydd angen atgyfeiriad arnom ni gan weithiwr iechyd proffesiynol yn gyntaf. Pan fyddwch chi’n hysbys i ni, gallwch chi gyfeirio eich hun at y gwasanaeth pan fydd angen.

 

Amseroedd agor
Parc Iechyd Prifysgol Keir Hardie: dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 9am – 5pm,
Ysbyty Dewi Sant: dydd Llun a dydd Mercher 9am – 4.30pm

 

Beth i'w ddisgwyl

Pan fyddwn ni’n cael ei atgyfeiriad, byddwn ni’n anfon llythyr atoch chi yn y post gyda dyddiad erbyn pryd y dylech chi ein ffonio ni. Yn ystod ein galwad ffôn, bydd angen i ni holi ambell gwestiwn ynglŷn â’ch cyflwr. Os bydd angen, byddwn ni’n cynnig yr apwyntiad nesaf i chi sydd ar gael.

Yn ystod yr apwyntiad cyntaf, byddwn ni’n asesu eich problemau a’ch galluoedd ac yn cymryd mesuriadau cychwynnol.

Yna, byddwn ni’n trafod nodau a chynllun triniaeth i wella neu drin eich sefyllfa.

Bydd pob sesiwn yn para tua 45 munud.

Ein nod yw cwblhau’r cyfnod o ffisiotherapi mewn 6 sesiwn.

 

Cysylltwch â ni

Parc Iechyd Prifysgol Keir Hardie
Rhif ffôn: 01685 351353

Ysbyty Dewi Sant
Rhif ffôn: 01443 443443 – Estyniad 5543

Dilynwch ni: