Mae'r gwasanaeth Ffisiotherapi Plant (Ffisiotherapi Paediatrig) yn gweld babanod, plant a phobl ifanc o 0 i 18 oed, sy'n profi oedi yn eu datblygiad neu'n cael eu heffeithio gan anaf, salwch neu anabledd.
Rydym yn helpu i wella neu adfer symud, cryfder, swyddogaeth ac annibyniaeth. Yn ogystal â'n sgiliau arbenigol, mae gennym wybodaeth arbenigol ychwanegol a phrofiad o ddatblygiad plant, symud, anafiadau plentyndod ac anableddau plentyndod.
Rydym yn gweld plant a phobl ifanc ar y safleoedd canlynol:
|
Canolfan y Plant |
Clinig Carnegie |
|
Canolfan y Plant |
Canolfan y Plant |
Rydym yn gweld plant a phobl ifanc ag amrywiaeth o gyflyrau gan gynnwys:
Gellir cyfeirio eich plentyn gan gynghorydd, Meddyg Teulu, ymwelwr iechyd neu weithiwr iechyd arall y maent yn gyfarwydd â hwy.
Bydd plant rhwng 10-15 oed sy'n profi anawsterau gyda'u cyhyrau, esgyrn neu gyhyrau ac asgwrn (problemau cyhyrysgerbydol ac orthopaedig) yn cael eu gweld gan wasanaeth MSK Pediatregol. Ar hyn o bryd, nid yw'r gwasanaeth hwn yn derbyn hunangyfeiriadau; felly bydd angen gwneud cyfeiriadau drwy'r Meddyg Teulu.
Bydd yr holl blant a phobl ifanc eraill yn cael eu gweld gan wasanaeth ffisiotherapi pediatreg gyffredinol, ac rydym yn derbyn hunangyfeiriad gan rieni. Gellir gwneud hunangyfeiriad drwy gysylltu â'n gwasanaeth yn y Princess of Wales ar 01656 752237 neu Ysbyty Cwm Cynon ar 01443 715300, neu gallwch bostio'ch pryderon atom ar CTT_PaedPhysio_Referral@wales.nhs.uk.
Yn dibynnu ar y wybodaeth rydym yn ei derbyn, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i drafod eich pryderon fel y gallwn ymateb i ichi orau ac, os yw’n briodol, byddwn yn darparu gwybodaeth a strategaethau i chi i gefnogi eich plentyn tra’n aros am apwyntiad.
Gallai eich plentyn gael cynnig apwyntiad asesu yn un o'n canolfannau plant (fel uchod).
Mae'n bwysig bod person â chyfrifoldeb rhiant yn mynd gyda'r plentyn i'r apwyntiad hwn er mwyn cael cydsyniad ar sail penderfyniad cytbwys ar gyfer asesiad a thriniaeth. Mae'n bwysig o'r cychwyn cyntaf ein bod yn gweithio gyda chi i helpu i wneud y gorau o alluoedd corfforol ac annibyniaeth eich plentyn.
Yn ystod yr asesiad byddwn yn edrych ar unrhyw anawsterau y mae eich plentyn yn ei gael gyda'i symud a sut mae hyn yn effeithio ar ei weithgareddau o ddydd i ddydd. Er enghraifft, sut maen nhw'n symud o gwmpas gartref neu yn yr ysgol neu'r gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden.
Unwaith y byddwn wedi cwblhau ein hasesiad, byddwn yn trafod y canlyniadau a'r cynllun triniaeth gyda chi.
Byddwn yn gweld eich plentyn mor aml ag y credwn sy'n angenrheidiol, yn seiliedig ar ganfyddiadau eu hasesiad.
Rydym fel arfer yn trin plant mewn clinig, ond efallai y bydd achlysuron pan fyddwn yn cynnal triniaeth yn yr ysgol neu gartref.
Yn dilyn asesiad, gallai’r cynllun gynnwys:
| Ysbyty Brenhinol Morgannwg - Canolfan y Plant 01443 443206 Ynysmaerdy Llantrisant CF72 8XR |
Clinig Carnegie - Ffisiotherapi Plant 01443 688361 Ffordd Brithweunydd Trealaw CF40 2UH |
| Ysbyty Cwm Cynon - Canolfan y Plant 01443 715300 Ffordd Newydd Mountain Ash CF45 4DG |
Ysbyty Tywysoges Cymru - Canolfan y Plant 01656 752237 Ffordd Coity Pen-y-bont ar Ogwr CF31 1RQ |