Neidio i'r prif gynnwy

Problemau gyda'r esgyrn, y cymalau a'r cyhyrau

Mae ffisiotherapi cyhyrysgerbydol yn ymwneud â thrin yr esgyrn, y cyhyrau, y cymalau, y ligamentau, y tendonau a’r nerfau.

Rydyn ni’n darparu asesiadau, diagnosis a thriniaeth i helpu i leddfu poen ac i helpu pobl i symud yn well.

Bydd hyn yn cael ei ddarparu mewn awyrgylch gofalgar a chyfeillgar gan ymarferydd medrus sy’n gweithio i safonau uchaf ymarfer proffesiynol ac yn defnyddio’r dystiolaeth a’r ymchwil ddiweddaraf.

I bwy mae’r gwasanaeth?

Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer oedolion gyda chyflyrau cyhyrysgerbydol.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer oedolion sy'n byw yn ardal BIP CTM. Gallwch chi gyfeirio eich hun neu gael eich cyfeirio gan weithiwr proffesiynol arall ym maes gofal iechyd.

Amseroedd agor
Dydd Llun i ddydd Gwener

Beth i'w ddisgwyl

Bydd aelod o’r Tîm Ffisiotherapi yn cynnal asesiad manwl o’ch symptomau. Gallai hyn ddigwydd dros y ffôn, dros fideo neu wyneb yn wyneb yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch cyflwr clinigol.

Gallai’r asesiad gynnwys edrych ar y symudiad a’r cryfder yn ogystal â chynnal profion penodol i ganfod y broblem.

Ar ôl eich asesiad, byddwch chi’n penderfynu pa driniaeth sydd fwyaf priodol ar gyfer eich cyflwr.

Gallai hyn gynnwys cyngor a gwybodaeth ynglŷn â'ch symptomau, yn ogystal â rhaglen driniaeth i chi barhau â hi gartref.

Mae'n bosib y bydd triniaeth yn cael ei chynnig i chi'n unigol neu fel grŵp.

Ffoniwch ein Canolfan Ffisiotherapi ar
01443 715012

Dilynwch ni: