Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi mewn Uned Gofal Dwys/Uned Dibyniaeth Fawr

Yr Hyn Rydyn Ni’n ei Wneud

Gall pobl aros dan ofal dwys am gyfnod hir, a hynny fel arfer yn y gwely. Mae hyn yn gallu arwain at wendid yn y cyhyrau,

gan gynnwys y cyhyrau a ddefnyddir i anadlu.

 

Dirywiad yn y cyhyrau, poen yn y cymalau ac anhyblygrwydd yw rhai o’r risgiau sy’n wynebu cleifion wrth iddyn nhw wella ar ôl salwch critigol.

Bydd ffisiotherapyddion yn asesu cleifion dan ofal critigol am beswch neu anawsterau anadlu, gan ddefnyddio technegau i’w helpu i chwydu fflem ac i anadlu’n haws.

Bydd ffisiotherapyddion yn helpu cleifion i anadlu’n annibynnol ac yn helpu i gadw eu brest yn rhydd rhag mwcws er mwyn atal heintiau ar yr ysgyfaint.

Bydd ffisiotherapyddion hefyd yn helpu cleifion i wella’n gorfforol ac yn eu hannog i eistedd, sefyll a cherdded mor gynnar â phosib.

I Bwy mae’r Gwasanaeth?

Pob claf yn yr Uned Gofal Critigol/Uned Dibyniaeth Fawr y mae angen y gwasanaeth arnyn nhw. Bydd y wardiau’n parhau â’r gwaith o adsefydlu’r cleifion hyn hefyd.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Pob claf yn yr Uned Gofal Critigol/Uned Dibyniaeth Fawr y mae angen y gwasanaeth arnyn nhw.

Beth i'w Ddisgwyl

Os ydych chi wedi bod yn ddifrifol wael, mae’n debygol iawn eich bod chi’n cysgu neu wedi’ch tawelu pan gynhaliodd y ffisiotherapydd ei asesiad cyntaf arnoch chi. Fel arfer, bydd y ffisiotherapydd wedi gwrando ar eich anadlu ac wedi symud eich breichiau neu goesau i asesu effaith eich salwch neu anafiadau.

Wrth i chi wella, bydd eich ffisiotherapydd yn gweithio gyda chi a’r tîm gofal dwys i’ch helpu chi i wella fel eich bod chi’n ddigon iach i symud i ward arall yn yr ysbyty.

Mae’n bosib y byddwch chi’n wan iawn ac yn mynd yn flinedig yn hawdd, ond bydd eich ffisiotherapydd yn wybodus iawn ac yn gosod nodau gyda chi i’ch helpu chi i wella.

Manylion Cyswllt

Ysbyty Tywysog Siarl Jonathan Murphy Arweinydd Tîm Ystad y Gurnos Merthyr Tudful CF48 9DT 01685 728703 andrew.murphy@wales.nhs.uk Ysbyty Brenhinol Morgannwg Dominic Anderson Ynysmaerdy Llantrisant CF72 8XR 01443 443443 dominic.anderson2@wales.nhs.uk
Ysbyty Tywysoges Cymru Heol Coety Pen-y-bont ar Ogwr CF31 1RQ sian.roberts2@wales.nhs.uk  

Dolenni defnyddiol

http://www.csp.org.uk/professional-union/practice/evidence-base/physiotherapy-works/critical-care

Dilynwch ni: