Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd y pelfis

Mae Ffisiotherapyddion Iechyd y Pelfis yn asesu ac yn trin anhwylderau sy’n effeithio ar y pelfis a llawr y pelfis.

Oherwydd hyn rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr ag obstetreg, gynaecoleg ac wroleg, ac rydyn ni’n delio â phroblemau yn ymwneud â’r bledren, y coluddyn ac iechyd rhywiol i fenywod ac i ddynion.

Ar hyn o bryd rydyn ni’n darparu gwasanaethau cleifion allanol yn

  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg
  • Ysbyty Cwm Cynon
  • Ysbyty Tywysoges Cymru
I bwy mae’r gwasanaeth?

Rydyn ni’n darparu gwasanaethau asesu, triniaeth ac adsefydlu i oedolion sy’n dioddef o’r problemau canlynol gyda’u pelfis:

  • Anymataliaeth
  • Brys wrinol ac amlder wrinol (gan gynnwys pledren orweithgar)
  • Prolaps
  • Poen yn y pelfis (gan gynnwys poen yng ngwregys y pelfis yn gysylltiedig â beichiogrwydd)
  • Poen yn y wain (gan gynnwys gweindyndra a fwlfadynia)
  • Dysparewnia (poen wrth gael rhyw)
  • Creithiau yn y perinëwm / yn sgil episiotomi
  • Gwendid / tyndra yng nghyhyrau llawr y  pelfis
  • Rhwymedd
  • Diastasis (bwlch rhwng cyhyrau’r abdomen ar ôl rhoi genedigaeth)

 

 

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae modd i’ch meddyg teulu, bydwraig, ymgynghorydd, nyrs ymataliaeth neu therapydd arall eich atgyfeirio. 

Gallwch chi hefyd atgyfeirio eich hun (os nad oes cymhlethdodau eraill) drwy ffonio 01443 471515 i gael ffurflen hunan-asesu

Oriau agor
8am – 4pm dydd Llun i ddydd Gwener

Beth i'w ddisgwyl

Mae ffisiotherapyddion iechyd y pelfis yn cynnig asesiadau a thriniaeth arbenigol ar gyfer ystod eang o broblemau gyda’r pelfis.

Gall fod gofyn i chi fynd i asesiad unigol neu i sesiwn addysg mewn grŵp yn y lle cyntaf, lle gallwn ni roi llawer iawn o wybodaeth a chyngor i gleifion sy’n dioddef o symptomau tebyg. Ar ôl y sesiwn grŵp hwn byddwch chi’n cael cynnig asesiad unigol, wedyn triniaeth ar ôl hynny yn ôl yr angen.

Mae ein triniaeth yn cael ei theilwra i anghenion pob claf. Rydyn ni’n cydweithio â’n cleifion i osod nodau a chytuno ar gynllun triniaeth i hybu iechyd a lles yr unigolyn.

 

Cysylltwch â ni

Gallwch chi gysylltu â’n tîm gweinyddol trwy ffonio 01443 471515. Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynnig apwyntiadau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu Ysbyty Cwm Cynon yn Aberpennar.

Os byddai’n well gyda chi gael eich asesu a’ch trin yn y Gymraeg, mae hyn yn bosibl ar hyn o bryd yn Ysbyty Cwm Cynon yn Aberpennar ac yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gofynnwch am hyn wrth ffonio i drefnu eich apwyntiad.

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl os na allwch chi ddod i’r apwyntiad oedd wedi ei drefnu. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i ni i gynnig yr apwyntiad i rywun arall, a thrwy wneud hynny gadw ein rhestrau aros mor fyr â phosibl. Os na fyddwch chi’n dod i’r apwyntiad heb ddweud ymlaen llaw, mae’n bosibl y byddwch chi’n cael eich rhyddhau o’r gwasanaeth.

Rydyn ni’n croesawu adborth ac awgrymiadau gan gleifion am sut y gallwn ni barhau i wella ar y gwasanaeth, felly mae croeso i chi gysylltu i roi eich sylwadau neu os ydych chi am siarad ag aelod o dîm iechyd y pelfis yr Adran Ffisiotherapi.

Dilynwch ni: