Neidio i'r prif gynnwy

Pam ddylwn i gael brechiadau anadlu'r gaeaf?

Efallai y byddwch yn gymwys i gael brechlyn ffliw a brechlyn atgyfnerthu COVID-19 y gaeaf hwn.

Yma gallwch gael rhagor o wybodaeth am bob un o'r brechlynnau hyn, gan gynnwys ble y gallwch gael gafal arnynt.


Ydw i'n gymwys?

I ddarganfod a ydych mewn grŵp poblogaeth cymwys ar gyfer y brechlyn ffliw a brechlyn atgyfnerthu COVID-19


Ble a phryd alla i gael fy mrechlyn atgyfnerthu COVID-19 a brechlyn ffliw?

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gael eich brechlynnau, gan gynnwys ble a phryd y byddant ar gael


Pam ddylwn i gael y brechlyn atgyfnerthu COVID-19 a’r brechlyn ffliw?

Os ydych chi’n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu COVID-19 a/neu rhag y ffliw, mae hyn oherwydd eich bod mewn mwy o berygl o ddal y ffliw/COVID-19 a mynd yn sâl, a/neu eich bod mewn cysylltiad rheolaidd ag unigolion agored i niwed. 

Mae'r brechlynnau ffliw a COVID-19 yn helpu i amddiffyn eich hun a'r rhai o'ch cwmpas rhag y prif fathau o ffliw a feirysau COVID-19 a allai fod yn cylchredeg ar y pryd. Mae cael eich brechu hefyd yn lleihau'r tebygolrwydd y byddwch yn dioddef o salwch difrifol ac angen mynd i'r ysbyty.

Mae'r dolenni a'r wybodaeth isod yn cynnwys llawer o wybodaeth ac atebion i lawer o gwestiynau cyffredin am bob un o'r brechlynnau.

Ynglŷn â'r brechlyn COVID-19 – Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru).

Ynglŷn â'r brechlyn ffliw – Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Pam fod angen brechlyn atgyfnerthu COVID-19 arall arna i?

Fel imiwnedd naturiol, mae'r imiwnedd amddiffynnol y mae'r brechlyn COVID-19 yn ei roi i chi yn lleihau dros amser. Mae angen brechlyn atgyfnerthu i wella'ch imiwnedd, cynyddu eich amddiffyniad rhag salwch difrifol, a lleihau'r tebygolrwydd y bydd angen i chi fynd i'r ysbyty.

Roedd pobl a dderbyniodd frechlyn atgyfnerthu yn yr hydref y llynedd tua 53% yn llai tebygol o fynd i'r ysbyty gyda COVID-19 yn y pythefnos i bedair wythnos ar ôl cael eu brechu, o'u cymharu â'r rhai na chafodd brechlyn atgyfnerthu.

 

Dilynwch ni: