Neidio i'r prif gynnwy

Brechiad chwistrell trwy'r trwyn rhag y ffliw

Group of three children hugging each other

Pam cael y brechlyn chwistrell trwy’r trwyn rhag y ffliw?

  • Gall plant ifanc ddal a lledaenu ffliw yn hawdd. Gall cael feirws y ffliw fod yn ddifrifol i blant a phobl ifanc. Gall arwain at heintiau eilaidd fel broncitis a niwmonia. Y gaeaf diwethaf cafodd mwy na 600 o blant 2-16 oed eu cadw yn yr ysbyty gyda ffliw yng Nghymru.
  • Mae ffliw yn cael ei achosi gan feirws sy’n gallu lledaenu’n hawdd i bobl eraill. Gall unrhyw un gael y ffliw ond mae gan blant y gyfradd uchaf o haint
  • Brechu yw ein ffordd orau o amddiffyn rhag clefydau difrifol o hyd.
  • Mae feirysau ffliw yn newid yn gyflym, felly bob blwyddyn mae angen brechlyn newydd arnoch chi i'ch amddiffyn.
  • Gall cael y brechlyn rhag y ffliw amddiffyn plant gan y gall leihau’r siawns o gymhlethdodau o glefydau eilaidd.

Pa blant sy'n gymwys i gael brechlyn chwistrell trwy’r trwyn rhag y ffliw?

  • Bydd pob plentyn dwy a thair blwydd oed (ar 31 Awst 2023 oed), a phlant ysgol o ddosbarth derbyn hyd at a gan gynnwys blwyddyn ysgol 11, yn cael cynnig brechlyn chwistrell trwy’r trwyn rhag y ffliw’r hydref/gaeaf hwn i helpu i’w hamddiffyn rhag y ffliw.
  • Yn ogystal, mae plant a phobl ifanc rhwng chwe mis a dwy oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor hefyd yn gymwys. Mae’n arbennig o bwysig eu bod yn cael eu brechu gan eu bod mewn mwy o berygl o gymhlethdodau na phlant eraill os ydyn nhw’n dal y ffliw.

Sut mae brechlyn chwistrell trwy’r trwyn rhag y ffliw yn cael ei roi?

  • Y brechlyn rhag y ffliw sy’n cael eu rhoi i blant yn yr ysgol yw'r brechlyn chwistrell trwy’r trwyn. Mae'r brechlyn chwistrell trwy’r trwyn yn niwl mân sy'n cael ei chwistrellu i fyny'r trwyn o flaen pob ffroen.
  • Mae'r brechlyn chwistrell trwy’r trwyn rhag y ffliw yn gyflym ac yn ddi-boen. Nid yw'r rhan fwyaf o blant wedi cynhyrfu wedyn.

Ble a phryd y bydd fy mhlentyn yn cael ei frechiad chwistrell trwy’r trwyn rhag y ffliw?

  • Mae plant dwy neu dair oed fel arfer yn cael eu gwahodd i gael eu brechlyn rhag y ffliw yn eu meddygfa.
  • Os yw'ch plentyn yn y grŵp oedran hwn ac nad yw wedi cael gwahoddiad i gael ei frechlyn rhag y ffliw erbyn canol mis Tachwedd, cysylltwch â'i feddygfa.
  • Mae plant yn yr ysgol (dosbarth derbyn i flwyddyn ysgol 11) yn cael gwybodaeth a ffurflen ganiatâd gan yr ysgol a byddant fel arfer yn cael eu brechlyn rhag y ffliw yn yr ysgol.
  • Darllenwch y wybodaeth a dychwelwch y ffurflen cyn gynted â phosibl. Os yw'ch plentyn yn bedair oed neu'n hŷn, a ddim yn yr ysgol, cysylltwch â'i feddygfa fel y gall gael ei frechlyn rhag y ffliw.
  • Os yw'ch plentyn o dan ddwy oed, neu'n 16 neu 17 oed, ac mewn mwy o berygl o gymhlethdodau o'r ffliw oherwydd cyflwr iechyd, dylai eu meddygfa eu gwahodd i gael eu brechlyn. Yn ddelfrydol, dylid rhoi’r brechlyn rhag y ffliw cyn i’r ffliw ddechrau cylchredeg yn y gymuned. Fodd bynnag, gellir ei roi yn ddiweddarach o hyd
  • Dydy’r brechiad COVID-19 ddim yn cael ei gynnig yn yr ysgol ac nid yw’n rhan o’r rhaglen imiwneiddio ysgolion na’r brechiad chwistrell trwy’r trwyn rhag y ffliw. Mae plant â chyflwr iechyd sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o COVID-19 yn gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu COVID-19 yr hydref hwn. 

Sut mae brechlyn rhag y ffliw yn helpu?

  • Bydd cael brechlyn rhag y ffliw yn helpu i amddiffyn eich plentyn rhag y ffliw. Mae'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael eu brechlyn fel chwistrell trwy’r trwyn cyflym a di-boen. Mae amddiffyniad yn dechrau tua phythefnos ar ôl cael y brechlyn.
  • Mae'r brechlyn fel arfer yn cynnig amddiffyniad da i blant rhag y ffliw.
  • Mae hefyd yn helpu i leihau’r siawns y bydd plant a phobl ifanc yn lledaenu’r ffliw i eraill sy’n wynebu mwy o risg o’r ffliw, fel babanod ifanc, neiniau a theidiau, a’r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor.
  • Mae rhai pobl yn dal i gael y ffliw hyd yn oed ar ôl cael brechlyn ffliw, ond yn aml gyda symptomau ysgafnach. Dydy brechlynnau ffliw ddim yn amddiffyn rhag annwyd, feirysau anadlol eraill, neu salwch gaeaf arall.

Pa mor ddiogel yw brechlyn chwistrell trwy’r trwyn rhag y ffliw?

  • Mae'r brechlyn chwistrell trwy’r trwyn rhag y ffliw yn ddiogel ac wedi'i roi i filiynau o blant ledled y byd.
  • Mae'r chwistrell trwy’r trwyn rhag y ffliw yn cynnwys pedwar math o feirws y ffliw - nid yw'n cynnwys unrhyw feirysau eraill. Ni all y chwistrell trwy’r trwyn achosi ffliw nac unrhyw glefydau eilaidd.

Rhagor o wybodaeth

Taflen frechu rhag y ffliw i blant a phobl ifanc:

Y Ffliw - Amddiffyn plant a phobl ifanc gyda chwistrell syml yn y trwyn 2023/24 - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Tudalen wybodaeth gyhoeddus ICC – brechiad rhag y ffliw:

www.phw.nhs.wales/fluvaccine

Tudalen wybodaeth gyhoeddus ICC – imiwneiddio mewn ysgolion

Imiwneiddio mewn Ysgolion - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Rhaglen imiwneiddio rhag y ffliw – Dogfen briffio i benaethiaid a staff ysgolion 2023/24

phw.nhs.wales/topics/immunisation-and-vaccines/fluvaccine/childhood-influenza-vaccination-programme/flu-immunisation-programme-for-schools-2023-24/

 

Dilynwch ni: