Neidio i'r prif gynnwy

Rydw i'n poeni am fy nghyflwr iechyd, ond rydw i wedi drysu ynghylch pwy ddylwn i ei ffonio neu ble y dylwn i fynd. Ydy meddygfeydd/adrannau argyfwng ar agor o hyd?

Ydyn, mae meddygfeydd ac adrannau argyfwng ar agor o hyd, ac maen nhw wedi bod yn gweld cleifion trwy gydol y pandemig. Os gallwch chi, byddem ni’n eich annog chi i weld eich fferyllydd, neu i ddefnyddio gwefan 111 GIG Cymru yn y lle cyntaf wrth geisio cyngor i drin eich problem feddygol. Os bydd angen i chi weld eich meddyg teulu, ffoniwch eich meddygfa heddiw a bydd modd iddyn nhw drefnu apwyntiad i chi. Gallwch chi ffonio rhif 111 y tu allan i oriau.

Mae Unedau Mân Anafiadau gyda ni hefyd yn Ysbyty Cwm Cynon ac Ysbyty Cwm Rhondda. Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth am y gwasanaethau hyn yma. Defnyddiwch yr Adrannau Argyfwng mewn argyfwng iechyd go iawn yn unig.

Dilynwch ni: