Neidio i'r prif gynnwy

Rydw i wedi cael llythyr yn gofyn i mi ynglŷn â thriniaeth a ph'un a ydw i am barhau i fod ar y rhestr aros ai peidio. Beth mae hyn yn ei olygu a beth ddylwn i ei wneud?

Rydyn ni’n ysgrifennu at rai cleifion sydd wedi bod yn aros mwy na 52 wythnos am eu triniaeth mewn rhai arbenigeddau. Mae’n bosib bod eich amgylchiadau wedi newid wrth aros, felly rydyn ni’n cysylltu â chleifion ar ein rhestr apwyntiadau cleifion allanol i ofyn am eu dewisiadau ac i wneud yn siŵr fod angen iddyn nhw gael eu gweld o hyd.

Os ydych chi wedi cael llythyr, mae'n bwysig iawn eich bod yn ateb er mwyn i ni allu asesu eich anghenion cyfredol. Gallwch chi ddefnyddio'r amlen ragdaledig i anfon eich ffurflen yn ôl atom ni.  Os na fyddwn ni’n clywed oddi wrthych, byddwn ni’n cymryd yn ganiataol nad ydych chi am gael eich apwyntiad mwyach, felly mae'n bwysig iawn llenwi'r holiadur a'i ddychwelyd fel bod ein timau’n gallu ei adolygu.

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi ynglŷn â’r llythyr neu'r holiadur, gallwch chi gysylltu â'n llinell gymorth ynglŷn ag ailgychwyn gwasanaethau ar y manylion isod.

Dilynwch ni: