Mae’n flin iawn gyda ni eich bod wedi gorfod aros yn hirach am driniaeth, ond roedd yn bwysig tu hwnt i ni wneud y newidiadau anodd hyn er mwyn gallu ymateb i bandemig COVID-19 a chadw cleifion a staff mor ddiogel â phosib. Mae ein clinigwyr yn gweithio’n galed i ailgychwyn gwasanaethau, a byddan nhw’n cysylltu â chleifion yn ôl blaenoriaeth glinigol.
Rydyn ni hefyd yn ystyried sut byddem ni’n rhedeg clinigau ychwanegol a chynnal mwy o apwyntiadau ar-lein hyd yn oed, er mwyn ceisio gweld cleifion cyn gynted â phosib. Os ydych chi mewn llawer o boen, gallech chi ffonio eich fferyllydd lleol neu ofyn i’ch meddyg teulu am gyngor am sut i ddelio â’ch cyflwr, wrth i’n timau weithio’n galed i’ch gweld chi cyn gynted â phosib.