Neidio i'r prif gynnwy

Mae fy meddyg teulu wedi fy atgyfeirio am ragor o driniaeth/profion, ond dydw i ddim wedi clywed dim byd. Beth ddylwn i ei wneud?

Yn anffodus, fel gyda’r Byrddau Iechyd eraill, roedd rhaid i ni gymryd y penderfyniad anodd i ohirio pob math o driniaeth heblaw am driniaeth frys, wrth i ni ymateb i bandemig COVID-19. Mae’n flin gyda ni eich bod wedi gorfod aros yn hirach am eich triniaeth, ond mae’n hanfodol ein bod bob tro yn rhoi diogelwch ein cleifion a’n staff yn gyntaf.

 Os ydych chi wedi bod yn aros am driniaeth neu brofion yn ystod y cyfnod clo, peidiwch â phoeni, dydyn ni ddim wedi anghofio amdanoch chi.

Rydyn ni’n gweithio’n galed iawn i ailgychwyn ein gwasanaethau GIG eto ledled Cwm Taf Morgannwg, nawr bod cyfraddau COVID-19 yn gostwng eto yn ein hardal, ond fydd hynny ddim yn digwydd dros nos gan ein bod yn ystyried sut gallwn ni ddarparu gwasanaethau nad ydyn nhw’n frys mor ddiogel â phosib.

Dylai ein timau fod mewn cysylltiad â chi’n fuan am eich triniaeth, ac er ein bod yn deall pa mor anodd y gall aros fod, gofynnwn i chi fod yn amyneddgar ar yr adeg hon. Rydyn ni’n ddiolchgar am eich cefnogaeth.

Rydyn ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am statws ein gwasanaethau ar ein gwefan. Gallwch wirio yma pa wasanaethau sydd wedi ailgychwyn yn barod.

Dilynwch ni: