Neidio i'r prif gynnwy

Dos Atgyfnerthu COVID (Hydref 2023)

***DIWEDDARU***

Ydych chi wedi colli eich brechiad COVID?

Os ydych chi'n gymwys i gael brechiad COVID-19, ac nad ydych wedi'i dderbyn eto, bydd ein Canolfannau Brechu Cymunedol ar agor i alw heibio o ddydd Llun 4 Rhagfyr rhwng 9.10 a 4.45 bob dydd - dydd Llun i ddydd Gwener.

Mae ein CVCs ym Mharc Iechyd Dewi Sant, Ysbyty George Thomas, Keir Hardie, Glanrhyd, YCC ac Ysbyty Maesteg. Sylwch y bydd Ysbyty Maesteg ar agor i gerdded i mewn ar ddydd Llun yn unig.

Os ydych wedi derbyn llythyr apwyntiad ar gyfer brechiad COVID, ac nad ydych yn gallu bod yn bresennol, archebwch un ai drwy ddefnyddio'r ffurflen ailarchebu: Gwybodaeth am y brechlyn rhag COVID-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)

Neu drwy ffonio ein llinell ail-archebu ar 01685 726464.

Mae cerdded i mewn eisoes ar waith yn ein CGS ar gyfer pob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol, a fydd hefyd yn cael cynnig brechiad y ffliw.

Os nad ydych yn weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol ac yn gymwys i gael y brechlyn ffliw, gallwch wneud apwyntiad gyda'ch meddyg teulu neu fferyllfa leol.

Ydw i'n gymwys ar gyfer y brechlyn COVID eleni?

Yn unol â chyngor gan y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio, cynigir dos atgyfnerthu (unigol) o frechlyn COVID i:

• Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn

• Pob oedolyn dros 65 oed

• Pobl rhwng 6 mis a 64 oed sy'n cael eu hystyried yn agored i niwed yn glinigol

• Staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol

• Pobl (12-64 oed) sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan

• Pobl rhwng 16 a 64 oed sy'n ofalwyr

Mwy o wybodaeth yma: Y rhaglen brechu rhag COVID-19 | LLYW.CYMRU

Rydym yn gwerthfawrogi, ac yn deall yn llwyr, fod gan bawb fywydau prysur iawn, ond ar raglen frechu o'r raddfa hon, byddai'n ein helpu ni pe gallech flaenoriaethu a mynychu'r apwyntiad a anfonir atoch

Dilynwch ni: