Neidio i'r prif gynnwy

Pigiadau atgyfnerthu'r hydref - Ffurflen apwyntiad beichiogrwydd

Os ydych chi'n feichiog, rydych chi'n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu’r hydref rhag COVID-19.

Mae'r brechlyn yn ddiogel i'w gael yn ystod beichiogrwydd a bydd yn eich amddiffyn rhag mynd yn ddifrifol wael o COVID-19. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, bydd eich bydwraig neu'ch meddyg teulu yn hapus i'w hateb.

Rydym bellach wedi anfon ein holl apwyntiadau ar gyfer pigiadau atgyfnerthu'r hydref (Tachwedd 2022). Os nad ydych wedi cael llythyr apwyntiad gennym, yna cysylltwch â ni drwy lenwi'r ffurflen isod.

Bydd aelod o'r tîm naill ai'n cysylltu â chi (e-bost neu dros y ffôn) neu'n anfon apwyntiad newydd atoch. Gadewch dri diwrnod i'r tîm weithredu ar eich cais a saith diwrnod i'ch llythyr apwyntiad gyrraedd.

Dylai fod cyfnod o 13 wythnos o leiaf rhwng cael brechlynnau COVID-19. Peidiwch â phoeni os ydych wedi cael brechlyn o fewn 13 wythnos, gall ein tîm drefnu apwyntiad i chi o hyd, ond byddan nhw’n sicrhau bod o leiaf 13 wythnos wedi mynd heibio.

Diolch.

Dilynwch ni: