Rydym wedi anfon ein holl apwyntiadau at bawb sy'n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu’r hydref. Fodd bynnag, ydych chi'n meddwl ein bod ni wedi'ch colli chi?
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i beidio gadael neb ar ôl, felly os ydych chi’n teimlo eich bod yn perthyn i un o'r grwpiau cymwys ac nad ydych eto wedi derbyn apwyntiad, llenwch y ffurflen isod.
Cwpl o bethau cyn i chi wneud hynny:
I brosesu apwyntiad i chi, bydd angen i ni wybod ym mha grŵp rydych chi'n perthyn iddo.
Bydd aelod o'r tîm naill ai'n cysylltu â chi (e-bost neu dros y ffôn) neu'n anfon apwyntiad newydd atoch. Gadewch dri diwrnod i'r tîm weithredu ar eich cais a saith diwrnod i'ch llythyr apwyntiad gyrraedd.
Dylai fod cyfnod o 13 wythnos o leiaf rhwng cael brechlynnau COVID-19. Peidiwch â phoeni os ydych wedi cael brechlyn o fewn 13 wythnos, gall ein tîm drefnu apwyntiad i chi o hyd, ond byddan nhw’n sicrhau bod o leiaf 13 wythnos wedi mynd heibio.
Diolch.