Mae’r wythnos hon yn wythnos Iechyd Dynion yn y GIG, felly mae’n bryd edrych ar sut y gall WISE helpu gyda’r materion mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar ddynion a’u lles corfforol a meddyliol. Yma yn WISE, rydym yn gwybod sut y gall gwella ein ffordd o fyw wella ein hiechyd mewn sawl ffordd. Os penderfynwch fwyta'n iachach neu i wneud mwy o ymarfer corff gan eich bod yn gobeithio lleihau eich risg o glefyd y galon, yna mae'n debygol iawn eich bod hefyd yn lleihau eich risg o ddiabetes, mathau gwahanol o ganser, gan gynnwys canser y prostad, arthritis, materion iechyd meddwl a llawer mwy yn ogystal.
Gwyddom fod dynion mewn mwy o berygl o gael clefyd y galon na merched, a’r newyddion da yw bod llawer iawn y gallwch ei wneud i leihau eich siawns o ddioddef o glefyd y galon. Mae'r pethau y gallwch eu gwneud yn syml iawn a dyma'r math o bethau rydyn ni'n awyddus i siarad amdanyn nhw bob amser yma’n WISE!
Un o'r pethau gorau y gallwch chi ei wneud ydy bwyta diet iach. Does dim rhaid i hyn fod yn rhywbeth cymhleth. Gallwch wneud gwahaniaeth mawr i'ch risg o gael problemau iechyd hirdymor trwy ddilyn ychydig o egwyddorion sylfaenol fel lleihau faint o fwyd sothach rydych chi'n ei fwyta. Gallwch hefyd wneud yn siŵr eich bod chi'n cael o leiaf pump o ffrwythau a llysiau'r dydd a chofiwch yfed digon o ddŵr. Mae’n bwysig hefyd i geisio osgoi gormod o halen a siwgr lle mae hynny’n bosib. Byddwch yn synhwyrol gyda faint o fwyd rydych chi’n ei fwyta.
Nid yn unig y mae hyn yn eich helpu gyda lleihau’r risg o glefyd y galon ond mae hefyd yn debygol o fod yn llesol i'ch iechyd meddwl. Rydym yn gwybod y gall bwyta gormod o sothach yn rheolaidd arwain at broblemau iechyd meddwl, tra bod bwyd iach yn dueddol o helpu eich lles meddyliol. Does dim angen poeni am faetholion (nutrients) penodol na phoeni gormod am fanylion bychan - oni bai eich bod wedi gweld dietegydd sy’n dweud wrthych am wneud hynny. Eich patrwm bwyta cyffredinol sy’n bwysig.
Mae ymarfer corfforol rheolaidd yn bwysig iawn o ran cynnal iechyd corfforol a meddyliol da. Os ydych chi eisiau bod yn cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd neu fyd y campau yna mae llawer i'w wybod ai ddysgu am ymarfer corff. Ond os ydych chi am gadw eich calon yn iach, lleihau eich risg o ganser, iselder, diabetes ac arthritis, yna mae'n bwysig dod o hyd i rywbeth rydych chi'n mwynhau ei wneud sy’n cadw cyfradd curiad eich calon yn uwch am 30 munud, 5 gwaith yr wythnos.
Beth am roi cynnig ar ychydig o bethau gwahanol fel na fyddwch chi’n diflasu ac y byddwch chi’n ymarfer gwahanol rannau o’r corff? Er enghraifft, mae cerdded yn wych ar gyfer llosgi braster, mae ymarfer cardio fel rhedeg neu aerobeg yn dda i'ch calon a'ch ymennydd, ac mae ymarferion cryfder yn dda ar gyfer ffitrwydd cyhyrol ac yn eich cadw mewn cyflwr iechyd da yn gyffredinol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â'ch darparwr gofal iechyd neu weithiwr ffitrwydd proffesiynol a chymwys os oes gyda chi unrhyw bryderon am broblem iechyd y gallai fod angen i chi ei ystyried.
Rhywbeth arall i’w ystyried? Wel, dyna’r pethau mwyaf amlwg - osgoi smygu, yfed cyn lleied â phosibl o alcohol, cael digon o gwsg a gwneud eich gorau i gadw straen mor isel â phosib. Cwsg ydy pan fyddwn ni’n gwneud llawer iawn o’r gwaith o atgyweirio’r corff. Y mae’n un o’r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud. Yn y cyfnod yma lle mae pawb a phopeth ar ruthr gwyllt 24 awr y dydd pwy allai anghytuno a phwysigrwydd sicrhau mwy o amser tawel, seibiant a chwsg?!
O ran straen, mae bron pob un ohonom yn dioddef o’i effeithiau. Yr hyn sy'n bwysig ydy sut ydyn ni’n delio â straen. Gall dod o hyd i ffyrdd iach o ddadlwytho ein straen fod o help aruthrol. Ceisiwch dreulio mwy o amser gyda ffrindiau a theulu, gwneud pethau difyr yn ystod eich amser hamdden. Ewch allan am dro neu rhowch gynnig ar ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) a myfyrdod (os mai hynny sy’n apelio atoch).
Yma yn WISE mae gyda ni lawer o bethau sy’n gallu eich helpu. Os ydych chi’n poeni am glefyd y galon yna fe fyddai ein rhaglen Momenta yn gallu bod o help i chi ddysgu mwy am iechyd y galon. Ar gyfer pryderon iechyd corfforol a meddyliol eraill sy’n cynnwys pwysedd gwaed uchel, poen hirdymor, syndrom coluddyn llidus (IBS), problemau hirdymor yn ymwneud â’r ysgyfaint, pryder neu iselder, yna mae WISE yn cynnig gwasanaeth anhygoel sy’n gallu eich cefnogi gyda hyfforddwyr iechyd a meddygon. Gwasanaeth a fydd yn eich helpu i wneud y newidiadau angenrheidiol yn eich ffordd o fyw gan gynyddu eich siawns o fwynhau iechyd gwell yn y tymor hir.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych, ac os ydych yn awyddus i wybod mwy, gallwch ofyn i’ch meddyg teulu neu eich ymgynghorydd eich atgyfeirio (refer), neu gallwch wneud hynny eich hun! Rydym ni am wneud pethau mor hawdd ag y gallwn ar eich cyfer (yn ogystal â’ch meddyg prysur sydd ddim am dreulio gormod o’i amser yn llenwi ffurflen i wneud hynny!). Y cyfan sydd angen i chi ei wneud ydy ateb ychydig o gwestiynau sylfaenol sydd i’w gweld yn y linc yma:
https://bipctm.gig.cymru/wise-ctm/ffurflen-gofrestru-wise/
Fe edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan iawn!
Awdur: Sue Kenneally
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm
Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE