Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwasanaeth @Home a'r Tîm Clinigol Acíwt

Rydyn ni’n bwriadu darparu gwasanaeth trwy ddarparu mwy o ofal yn y gymuned leol yn lle’r ysbytai, yn agosach at gartrefi pobl, er mwyn gwella iechyd, parhau’n annibynnol ac ystyried opsiynau eraill yn lle mynd i’r ysbyty. Mae gan y Gwasanaeth @Home dîm o ddoctoriaid, uwch-ymarferwyr nyrsio, nyrsys cofrestredig, gweithwyr cymorth gofal iechyd, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, therapyddion iaith a lleferydd, dietegwyr, ymarferwyr nyrsio iechyd meddwl a gweinyddwyr.

Ein nod yw cynnig un pwynt cyswllt a brysbennu clinigol gydag ymyriadau clinigol i ddilyn mewn amgylchedd priodol, gan gynnwys asesiadau dan arweiniad ymgynghorydd, ymatebion cychwynnol, asesiadau integredig ac ymyriadau mewnwythiennol cymunedol.

 

I bwy mae’r gwasanaeth?

Cleifion 18 oed neu hŷn sy’n byw yn ardal Cwm Taf Morgannwg:

  • os oes haint gyda chi ac mae angen gwrthfiotigau mewnwythiennol gartref arnoch chi
  • os oes niwmonia a gafwyd yn y gymuned gyda chi ac mae angen ymyriadau pellach
  • os ydych chi’n dioddef o ddiffyg hylif ac mae angen hylif trwy wythïen arnoch chi
  • os ydych chi’n cwympo yn aml neu os ydych chi mewn perygl o gwympo
  • os ydych chi’n cael trafferth cydbwyso neu gerdded
  • os ydych chi’n hŷn ac yn fregus ac mewn perygl o wynebu argyfwng
  • os oes amlffarmaeth gyda chi sy’n achosi symptomau neu sy’n arwain at golli pwysau neu ddiffyg anadl
  • os ydych chi’n glaf gyda phroblemau meddygol acíwt/is-acíwt ac efallai does dim angen gofal meddygol/nyrsio 24 awr yn yr ysbyty.

 

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall, os ydyn nhw’n byw yn ardal Cwm Taf Morgannwg ac yn 18 oed neu’n hŷn. Mae hyn yn cynnwys preswylwyr mewn cartrefi preswyl a chartrefi nyrsio. Pan fydd hi’n bosib, bydd angen cwblhau ffurfio atgyfeirio hefyd.

Amseroedd agor
Dydd Llun i ddydd Gwener (8am – 4.30pm) a dydd Sadwrn i ddydd Sul (8am – 4.30pm) ar gyfer ymyriadau triniaeth yn unig.

 

Beth i'w ddisgwyl

Bydd y Tîm @Home yn ffonio cleifion i drefnu dyddiad ar gyfer ymyriad gofal neu asesiad priodol.

Bydd yr asesiad hwn yn digwydd naill ai yn Ysbyty Dewi Sant neu yng nghartref y claf.

Efallai y bydd angen atgyfeirio rhai cleifion at Wasanaethau Craidd ein Bwrdd Iechyd neu’n uniongyrchol at asiantaethau awdurdodau lleol neu asiantaethau gwirfoddol.

Os na fydd atgyfeirio’n briodol, bydd cleifion yn cael eu hatgyfeirio yn ôl at y sawl wnaeth eu hatgyfeirio nhw.

Unwaith i’r Gwasanaeth @Home gwblhau ei ymyriad, bydd cleifion yn cael eu rhyddhau o’r gwasanaeth ac yn mynd yn ôl at eu meddyg teulu a byddwn ni’n darparu adroddiad crynodeb.

 

Cysylltwch â ni
Gall pob meddyg teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol
Cwm Taf Morgannwg atgyfeirio at y gwasanaeth.

 

Dolenni defnyddiol

Dilynwch ni: