Mae siarad am iechyd meddwl wedi dod yn bwnc trafod llawer mwy agored a chyffredin yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn deillio, yn rhannol, o'r gydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd iechyd meddwl a'r ffaith bod problemau iechyd meddwl yn dod yn fwy cyffredin. Ond, y tu hwnt i’r ffaith bod iechyd meddwl yn cael ei dderbyn fel pryder iechyd dilys, beth mae'r dystiolaeth yn ei ddangos am y manteision go iawn sy’n gysylltiedig â siarad am iechyd meddwl?
Mae tystiolaeth gref bod nifer o fanteision cadarnhaol yn gysylltiedig â siarad am iechyd meddwl. Er enghraifft, mae ymchwil yn dangos y gall siarad am iechyd meddwl leihau stigma a gwella dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl. Gall hyn arwain at agweddau mwy cadarnhaol tuag at iechyd meddwl a gall hyn, yn ei dro, arwain at fynediad gwell at wasanaethau a chymorth i'r rhai sydd eu hangen. Gall siarad am iechyd meddwl hefyd leihau teimladau o unigrwydd a chynyddu teimladau o gysylltiad a chefnogaeth i'r rhai sy'n ei chael hi’n anodd ymdopi â phroblemau iechyd meddwl.
Un o’r manteision eraill sy’n gysylltiedig â siarad am iechyd meddwl yw ei fod yn gallu helpu i normaleiddio problemau iechyd meddwl. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig i'r rhai sy'n ei chael hi’n anodd ymdopi â phroblemau iechyd meddwl ac a all fod yn teimlo'n ynysig neu’n teimlo cywilydd. Pan fydd pobl yn gweld bod eraill yn siarad yn agored ac yn onest am eu problemau iechyd meddwl, gall eu helpu nhw i deimlo'n fwy cyfforddus yn siarad am yr hyn y maen nhw’n mynd drwyddi.
Gall siarad am iechyd meddwl fod o fudd hefyd i'r rhai sydd mewn rolau cefnogol. Er enghraifft, gall siarad am iechyd meddwl helpu teulu a ffrindiau i ddeall yr heriau y mae eu hanwyliaid yn eu hwynebu a rhoi gwybodaeth iddyn nhw am y ffordd orau i'w cefnogi. Gall hefyd helpu’r rhai sydd eisiau helpu ond sydd ddim, o bosibl, yn gwybod sut i deimlo’n llai euog a rhwystredig.
Yn olaf, gall siarad am iechyd meddwl helpu i gael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl. Pan fydd pobl yn siarad yn agored ac yn onest am eu problemau iechyd meddwl, gall helpu i feithrin amgylchedd lle mae pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus yn gofyn am gymorth a chefnogaeth. Gall hefyd helpu i greu gwell dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl a lleihau'r stereoteipiau negyddol a'r stigma sy'n gysylltiedig â nhw.
At ei gilydd, mae'r dystiolaeth yn dangos bod nifer o fanteision cadarnhaol yn gysylltiedig â siarad am iechyd meddwl. Gall helpu i leihau stigma a gwella dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl, normaleiddio trafferthion iechyd meddwl, a chael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl. Mewn byd lle mae iechyd meddwl yn cael ei gydnabod fwyfwy fel pryder iechyd dilys, gall siarad yn agored ac yn onest am iechyd meddwl fod yn gam pwysig tuag at greu amgylchedd mwy cefnogol a deallgar i'r rhai sy'n wynebu anawsterau.
Awdur: Dr Liza Thomas-Emrus
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm
Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE