Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod Wythnos Gweithredu Dementia (15-21 Mai), mae'r Gymdeithas Alzheimer yn annog unigolion a'u teuluoedd, sy'n poeni am ddementia, i fynd ar ôl diagnosis amserol ac osgoi cyrraedd pwynt argyfwng - alzheimers.org.uk

Mae cael diagnosis amserol o ddementia yn golygu y gallwch:

  • ddeall ac adnabod symptomau dementia posibl
  • cael cyngor ymarferol gan eich gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a sefydliadau cymorth
  • teimlo eich bod wedi'ch grymuso i gymryd y camau nesaf a dechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol

Felly, os ydych chi'n poeni amdanoch chi'ch hun neu rywun sy'n agos atoch chi, gellir defnyddio rhestr wirio symptomau achrededig Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu fel cam cyntaf tuag at ddiagnosis. Gallwch lenwi'r rhestr wirio ar-lein neu ei hargraffu a'i dangos i'ch Meddyg Teulu neu Weithiwr Iechyd Proffesiynol.

Lleihau eich ffactorau risg

Er mai mynd yn hŷn yw'r ffactor risg mwyaf ar gyfer dementia, y newyddion da yw bod pethau y gallwch eu gwneud i helpu i leihau eich risg eich hun o ddatblygu clefyd Alzheimer a mathau eraill o dementia.

Yn y Gwasanaeth Gwella Lles (WISE), rydym yn canolbwyntio ar hynny — grymuso unigolion i reoli eu hiechyd ac i hunanreoli eu lles yn rhagweithiol, fel y gallan nhw fwynhau bywyd boddhaus a lleihau'r risg o gyflyrau cronig sy'n gysylltiedig ag oedran.

Symudwch i amddiffyn eich meddwl

Yn ôl ymchwil, mae ymarfer corff rheolaidd yn gwella gweithrediad yr ymennydd ac yn lleihau'r risg o ddirywiad gwybyddol. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn symud ac yn ymgorffori gweithgaredd corfforol yn eich trefn ddyddiol.

Mae Symud Corfforol yn un o'r sylfeini ar gyfer WISE - gwelwch sut gallwn ni eich cefnogi chi yma:

Symudiad Corfforol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Bwyta'n Iach, Meddwl Iach

Trwy fwyta diet iach a chytbwys, rydych chi'n fwy tebygol o gael yr holl faetholion sydd eu hangen arnoch i gadw'n iach. Felly, gweithiwch tuag at ddeiet o ansawdd da gyda llawer o ffrwythau a llysiau, brasterau iach a bwydydd ffibr uchel a fydd yn arwain at well hwyliau, llai o straen a gwell gweithrediad gwybyddol. 

Bwyta’n iach yw un o’r sylfeini ar gyfer WISE – gwelwch sut gallwn ni eich cefnogi chi yma:

Bwyta'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Materion Iechyd Meddwl

Gall straen cronig, pryder ac iselder waethygu llid a chyflymu proses heneiddio'r ymennydd, gan arwain at ddirywiad gwybyddol a cholli cof.

Felly, mae'n hanfodol blaenoriaethu'ch iechyd meddwl trwy ymarfer gweithgareddau sy'n lleihau straen fel myfyrdod, ymarfer corff, a chymdeithasu, a cheisio cefnogaeth pan fo angen.

Mae'n bwysig cofio yn ein bywydau prysur eich bod yn berson cyfan; dydy eich meddwl ddim ar wahân ac mae angen gofalu am hwnnw hefyd.
Iechyd Meddwl — Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Cadw cyswllt, Cadw clyfrwch 

Mae bod â chysylltiadau agos â'ch teulu a'ch ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol ystyrlon yn helpu pobl i gynnal eu sgiliau meddwl yn well yn ddiweddarach mewn bywyd ac arafu dirywiad gwybyddol.

Mae cysylltiad cymdeithasol yn un o'r sylfeini ar gyfer WISE, gweler sut y gallon eich cefnogi yma:  Cysylltiad Cymdeithasol — Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, ymuno â chlwb neu grŵp, a chymryd rhan yn eich cymuned.

Cwsg yn Dda i Heneiddio'n Dda

Yn ôl ymchwil, mae ymarfer corff rheolaidd yn gwella gweithrediad yr ymennydd ac yn lleihau'r risg o ddirywiad gwybyddol. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn blaenoriaethu noson dda o orffwys.

Gall ein hyfforddwyr WISE roi awgrymiadau i chi ar sut i wella ansawdd eich cwsg.
Cwsg - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Lleihau sylweddau niweidiol

Mae gwneud dewisiadau ffordd o fyw cadarnhaol yn bwysig iawn ar gyfer cynnal yr iechyd ymennydd gorau posibl.

  • Mae smygu'n gwneud llawer o niwed i gylchrediad gwaed o amgylch y corff, yn enwedig pibellau gwaed yr ymennydd ac felly mae’n rhoi eich hun mewn perygl llawer uwch o ddatblygu dementia yn ddiweddarach mewn bywyd.
  • Os ydych chi’n yfed alcohol yn rheolaidd, ceisiwch wneud hynny'n gymedrol ac o fewn y terfynau a argymhellir. Mae yfed gormod o alcohol ar un adeg yn gwneud eich ymennydd yn agored i lefelau uchel o gemegau niweidiol.

Awdur: Dr Liza Thomas-Emrus

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch:  CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n g