I ddathlu Wythnos Maeth a Hydradu, mae WISE yn canolbwyntio ar bwysigrwydd hydradu digonol ar gyfer dementia ac yn cynnig awgrymiadau a chyngor defnyddiol.
Mae hydradu yn ffactor pwysig i bawb, ond mae'n arbennig o bwysig i'r rhai sydd â dementia. Mae hydradu digonol yn helpu i gynnal iechyd gwybyddol a chorfforol, a gall leihau'r risg o ddatblygu problemau iechyd mwy difrifol fel heintiau'r llwybr wrinol.
Yn anffodus, mae'r rhai sydd â dementia yn aml yn ei chael hi’n anodd cydnabod a chofio bod angen iddyn nhw yfed digon. Gall hyn arwain at ddadhydradu sy’n gallu gwneud eu cyflwr yn waeth a chynyddu'r risg o gymhlethdodau iechyd difrifol.
Mae'n bwysig i ofalwyr ac aelodau o deulu'r rhai sydd â dementia fod yn ymwybodol o bwysigrwydd hydradu a chymryd camau i wneud yn siŵr bod yr unigolyn maen nhw’n gofalu amdano yn cael digon o hylifau.
Dyma rai awgrymiadau ar sut i annog rhywun sydd â dementia i yfed digon:
1. Gwnewch yn siŵr ei fod yn gallu cael gafael ar ddŵr bob amser. Rhowch jwg o ddŵr ger ei wely neu gwpan ar ei fwrdd fel y gall ei gyrraedd yn hawdd.
2. Gwnewch yn siŵr bod ei wydrau yfed yn hawdd eu hadnabod. Gall hyn ei helpu i gofio yfed yn amlach. Mae hefyd yn bwysig defnyddio lliwiau cyferbyniol i helpu pobl sydd â dementia i wahaniaethu rhwng gwrthrychau a gofodau, felly beth am ddefnyddio cwpanau llachar?
3. Cynigiwch amrywiaeth o hylifau iddo drwy gydol y dydd, nid dim ond dŵr. Gall gwahanol flasau a gweadau apelio’n fwy a'i helpu i yfed digon. Ceisiwch ychwanegu tafelli ffrwythau neu berlysiau.
4. Ewch ati i fonitro faint o hylifau mae’n eu hyfed trwy gydol y dydd a gwnewch yn siŵr ei fod yn yfed digon.
5. Gwyliwch allan am unrhyw feddyginiaethau sy’n gallu cynyddu’r risg y bydd yn dadhydradu, fel diwretigion, a thrafodwch y rhain gyda'i fferyllydd
6. Anogwch ef i fynd am dro yn rheolaidd neu gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill a fydd yn ei helpu i gadw'n actif yn gorfforol a gwneud yn siŵr ei fod wedi’i hydradu.
7. Defnyddiwch welltyn: Efallai y bydd gwelltyn yn ei gwneud hi'n haws i berson sydd â dementia yfed mwy o ddŵr.
8. Defnyddiwch nodiadau atgoffa: Defnyddiwch nodiadau atgoffa fel larymau neu giwiau gweledol i atgoffa'r person pryd i yfed dŵr.
9. Ewch ati i gynnwys dŵr mewn prydau a byrbrydau: Ychwanegwch ddŵr at gawliau, smwddis, neu ryseitiau eraill. Gall hyn helpu i wneud yfed mwy o ddŵr yn rhan o'i drefn ddyddiol.
10. Rhowch gymorth: Rhowch gymorth emosiynol a chorfforol i'r unigolyn sydd â dementia pan fydd yn yfed. Gall hyn helpu i wneud y gweithgaredd yn fwy pleserus a'i helpu i yfed digon.
Trwy ddilyn yr awgrymiadau hyn, gallwch chi helpu i sicrhau bod rhywun sydd â dementia yn yfed digon a bod ganddo'r cyfle gorau i gynnal ei iechyd gwybyddol a chorfforol. Mae yfed digon yn hanfodol i bawb, ond mae hyd yn oed yn bwysicach i'r rhai sydd â dementia. Trwy gymryd yr amser i sicrhau eu bod yn cael digon o hylifau, gallwch chi eu helpu i gadw'n iach ac yn gyfforddus.
Awdur: Dr Liza Thomas-Emrus
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm
Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE