Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn derbyn Gwobr GIG Cymru am brosiect cynaliadwyedd yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru

Cafodd prosiect cynaliadwyedd, sy’n gweld cardbord gwastraff yn cael ei droi’n ddeunydd gorwedd anifeiliaid anwes, ei gydnabod heddiw gan Brif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget.

Croesawodd BIP Cwm Taf Morgannwg Judith i’r safle, yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, i gyflwyno gwobrau mawreddog GIG Cymru i’r tîm.  Sicrhaodd CTM y brif wobr yn y categori 'Gweithio'n ddi-dor ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector' fis diwethaf, yn ystod seremoni wobrwyo rithiol ar gyfer holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru.

Mae'r prosiect buddugol yn golygu bod y bwrdd iechyd yn gweithio mewn partneriaeth â'r fenter leol ELITE Paper Solutions i ailgylchu cardbord gwastraff i droi mewn i ddeunydd gorwedd anifeiliaid anwes.

Mae ELITE Paper Solutions, wedi'u lleoli ym Merthyr Tudful, yn fenter gymdeithasol leol sy'n cefnogi 70 o staff a gwirfoddolwyr dan anfantais a/neu anabl i hyfforddiant a chyflogaeth leol. Mae'r stori lawn i'w gweld yma.

Dywedodd Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr, GIG Cymru: “Rydyn ni i gyd yn gwybod mai’r Argyfwng Hinsawdd yw’r bygythiad iechyd mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth, ac y bydd systemau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar reng flaen ran ymateb i’w effeithiau. Felly, roedd yn wych gweld prosiect cynaliadwyedd ail-bwrpasu cardbord, Cwm Taf Morgannwg, yn ennill y categori ‘Gweithio’n Ddi-dor ar draws y Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector’ yng Ngwobrau GIG Cymru 2023.

Mae’r peilot yn enghraifft wych o’r gwaith arloesol sy’n digwydd ar draws iechyd a gofal cymdeithasol sy’n ein helpu i ddysgu sut i sefydlu ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd ym mhopeth a wnawn.  Rwyf mor falch ei fod wedi cael ei gynnwys ac yn cael ei arddangos yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru.”

Dywedodd Paul Mears, Prif Weithredwr BIPCTM: “Llongyfarchiadau i’r holl staff y Bwrdd Iechyd a'n partneriaid ar ennill y wobr hon. Rwy'n gwybod eu bod nhw gyd wedi gweithio'n galed i sicrhau llwyddiant y cynllun peilot hwn ac mae'n wych gweld y canlyniadau y mae'r prosiect arloesol hwn wedi'u cael. Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i leihau ein heffaith amgylcheddol ac mae'n galonogol gweld mentrau fel hyn yn arwain y ffordd wrth ein helpu tuag at yr uchelgais hon”.

Dywedodd Andrea Wayman, Prif Weithredwr ELITE Paper Solutions: “Rydym wrth ein bodd i rannu’r Wobr hon gyda BIP Cwm Taf Morgannwg. Mae cydweithio yn y modd hwn yn dangos manteision y Sector Cyhoeddus a menter gymdeithasol i gydweithio'n gadarnhaol. Yr hyn y mae eraill yn ei ystyried yn wastraff, rydym wedi’i weld ar y cyd fel adnodd, sy’n galluogi budd creu swyddi, hyfforddiant a gwirfoddoli yn ELITE Paper Solutions, i bobl anabl a difreintiedig yn ein cymuned.”

Derbyniodd Craig Edwards, Uwch Reolwr yr Amgylchedd, Gwastraff a Fflyd y Bwrdd Iechyd y Wobr ar ran y tîm peilot a dywedodd: "I mi, nid gwastraff yn unig yw'r economi gylchol, ond yn fwy am alluogi BIP CTM i weithio mewn partneriaeth â mentrau cymdeithasol fel Elite Paper Solutions i'w helpu i dyfu a chyrraedd gwir botensial cymaint o unigolion y mae Elite yn eu cefnogi. Mae'r wobr yn dyst iddyn nhw."

 

05/12/2023