Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ennill yng Ngwobrau GIG Cymru 2023

Rydym yn falch iawn heddiw o ddathlu ar ôl ennill gwobr yng Ngwobrau GIG Cymru 2023 yn y categori Gweithio'n ddi-dor ar draws y Sector Cyhoeddus a'r Trydydd Sector ar gyfer Ailbwrpasu Cardbord: Partneriaeth beilot rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a ELITE Paper Solutions.

Rhwng Tachwedd 2022 ac Awst 2023, bu Ysbyty Brenhinol Morgannwg ynghyd ag ELITE Paper Solutions, menter gymdeithasol ym Merthyr Tudful, yn gweithio mewn partneriaeth i gynnal rhaglen beilot, a’r gobaith yw y bydd yn cael ei rhoi ar waith ar draws y Bwrdd Iechyd cyfan. Mae ELITE Paper Solutions wedi'u lleoli ym Merthyr Tudful, De Cymru, ac mae’n fenter gymdeithasol leol sy'n cefnogi 70 o staff a gwirfoddolwyr difreintiedig a/neu anabl i hyfforddiant a chyflogaeth leol.

Cafodd y wobr ei chyflwyno i'r tîm y tu ôl i'r prosiect buddugol mewn seremoni rithiol a fynychwyd gan unigolion yn y rownd derfynol o bob cwr o Gymru.

Dywedodd Judith Paget Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr, GIG Cymru: "Hoffwn ddiolch i'n holl gystadleuwyr ysbrydoledig yn y rownd derfynol a chynnig fy llongyfarchiadau o'r galon i'r enillwyr. Rydym yn gwerthfawrogi eich gwaith gwella rhagorol yn fwy nag erioed, ar adeg lle mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd er mwyn blaenoriaethu gofal cleifion. Mae'n bwysig cymryd yr amser i arddangos beth rydych chi wedi bod yn gweithio mor galed arno fel y gallwn ni ddathlu eich cyflawniadau a dysgu oddi wrth ein gilydd. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae eich gwaith yn datblygu fel y gallwn helpu i drawsnewid iechyd a gofal hyd yn oed ymhellach."

Mae Gwobrau GIG Cymru yn cydnabod sut y gall syniadau arloesol ar gyfer newid wneud gwahaniaeth sylweddol i'r cleifion sydd angen gofal, y sefydliadau sy'n darparu gofal, a'r system iechyd a gofal yn gyffredinol. Mae'n gyfle i arddangos timau gweithgar ac ysbrydoledig sy'n gweithio gyda'i gilydd, gan ymdrechu i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion ledled Cymru.

Meddai Linda Prosser, y Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid yn CTM: "Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi ennill yng Ngwobrau'r GIG 2023 o dan gategori 'Gweithio'n ddi-dor ar draws y Sector Cyhoeddus a'r Trydydd Sector' am ailbwrpasu cardbord. Mae'r tîm sy'n rhan o'r cynllun peilot hwn wedi gweithio'n eithriadol o galed ac ymroddedig i weithio gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid i sicrhau bod y peilot yn llwyddiant.  Rwy'n falch iawn bod eu gwaith caled wedi cael ei gydnabod.  Da iawn i bawb sy'n rhan o'r peilot."

Derbyniodd Craig Edwards, Uwch Reolwr yr Amgylchedd, Gwastraff a Fflyd y Bwrdd Iechyd y Wobr ar ran y tîm peilot a dywedodd: "I mi, nid gwastraff yn unig yw'r economi gylchol, ond yn fwy am alluogi BIP CTM i weithio mewn partneriaeth â mentrau cymdeithasol fel Elite Paper Solutions i'w helpu i dyfu a chyrraedd gwir botensial cymaint o unigolion y mae Elite yn eu cefnogi. Mae'r wobr yn dyst iddyn nhw."

Gwnaed y gwobrau eleni yn bosibl trwy nawdd gan Simply Do ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. I ddarllen mwy am yr holl enillwyr ewch i Gwobrau GIG Cymru - Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

16/11/2023