Neidio i'r prif gynnwy

BIP CTM yn Lansio Hyfforddiant Sero Net yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru

Yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru (yr wythnos hon), mae'r tîm Dysgu a Datblygu yn BIP CTM wedi rhyddhau adnodd dysgu newydd gwych i helpu staff i ddeall yr argyfwng hinsawdd a gwneud mwy wrth ymateb iddo.

Mae newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth yr ydym i gyd yn dod yn fwy cyfarwydd ag ef wrth i’w effaith a’r camau gweithredu sydd eu hangen gynyddu ar raddfa gyflymach.

Er bod llawer ohonom yn clywed mwy amdano, yn aml gall y wybodaeth sydd ar gael ar-lein ac yn y cyfryngau fod yn anghyson, a gall hyn ei gwneud hi'n anodd i ni ddeall yr hyn y gallwn ni ei wneud amdano, neu hyd yn oed ddeall rhywfaint o'r derminoleg a'r wyddoniaeth sylfaenol y tu ôl i'r hyn sy'n digwydd i'n planed a pham.

Er mwyn mynd i'r afael â'r rhwystr, mae grŵp o reolwyr dysgu a datblygu o bob rhan o GIG Cymru, gan gynnwys Pennaeth Datblygu Pobl yn BIP Cwm Taf Morgannwg wedi dod at ei gilydd i greu modiwl hyfforddi craidd sy'n cwmpasu popeth gan gynnwys beth yw newid yn yr hinsawdd, sut mae’n effeithio ar ein bywydau bob dydd a'r newidiadau bach y gallwn ni eu gwneud i helpu i leihau'r niwed y mae'n ei wneud i bobl a'r blaned.

Dywedodd Nick Carter, Pennaeth Datblygu Pobl yn BIP Cwm Taf Morgannwg:

"Ein nod yw ymgorffori gwybodaeth am newid yn yr hinsawdd ym mhob rhan o’n sefydliad ac ar draws GIG Cymru.

"Yn aml, pan fyddwn ni’n siarad am newid yn yr hinsawdd, rydyn ni’n siarad amdano ar raddfa fyd-eang, a gall hyn wneud i ni deimlo ei bod ymhell y tu hwnt i'n gallu i wneud unrhyw beth fel unigolion, fel timau neu fel sefydliad.  Ond nid felly y mae hi.

"Trwy gael gwared ar y sŵn a mynd yn ôl i'r pethau sylfaenol a manylion yr hyn y gallwn ni ei wneud ar lefel leol, rydyn ni’n gobeithio y bydd gan bobl yr hyder a'r wybodaeth i helpu i wneud gwahaniaeth cyfunol, un weithred fach ar y tro."

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd dysgwyr yn gallu:

  • Esbonio beth sy'n achosi newid yn yr hinsawdd a'r gwahaniaeth rhwng newid yn yr hinsawdd a chynhesu byd-eang.
  • Disgrifio effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ein bywydau o ddydd i ddydd.
  • Nodi sut mae GIG Cymru yn ymateb i newid yn yr hinsawdd. 
  • Adnabod newidiadau bach y gallwn ni eu gwneud yn y gwaith ac yn y cartref.

Ar ddiwedd y cwrs, gofynnir i’r staff ysgrifennu addewid hinsawdd hefyd a fydd yn sicrhau bod staff ar draws ein gwasanaethau yn eu darparu mewn ffordd sy'n wyrddach ac yn fwy cyfrifol o safbwynt cynaliadwyedd.

Mae un o bileri allweddol ein strategaeth CTM2030 Ein Hiechyd, Ein Dyfodol yn canolbwyntio ar Gynnal Ein Dyfodol. Mae lleihau ein hôl troed carbon a dod yn sefydliad sy'n fwy cyfrifol o safbwynt yr amgylchedd yn un o’r nifer o ffyrdd y gallwn ni gyflawni hyn, drwy sicrhau bod y ffordd rydyn ni’n darparu ein gwasanaethau yn lleihau baich iechyd newid yn yr hinsawdd ar y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.   

Ym mis Hydref, lansiwyd ein her Pobl Iach, Planed Iach. Dysgwch sut gallwch chi gymryd rhan a rhannu eich syniadau gwyrdd gwych.

 

23/11/2022