Neidio i'r prif gynnwy

BIPCTM yn Lansio'r Her 'Gwyrdd'

Her Gwyrdd

Cyn Wythnos Ailgylchu 2022 (17-23 Hydref), heddiw (14 Hydref) mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi lansio her gwneud gwelliannau newydd drwy bob rhan o’r Bwrdd Iechyd.

Mae’r her yn annog staff i rannu eu ‘Syniadau Gwyrdd’ er mwyn gwella cynaliadwyedd ein gwasanaethau, a mynd â ni’n nes at ein targedau datgarboneiddio.

Cyn darllen mwy, dyma rai termau sy’n anghyfarwydd efallai.

Mae’r peryglon y mae’r amgylchedd yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn enfawr, felly mae ein cynlluniau datgarboneiddio uchelgeisiol yn cyd-fynd â difrifoldeb y bygythiad mae newid hinsawdd yn ei achosi i iechyd ein pobl a’r blaned.

Mae gan ein cynllun datgarboneiddio dargedau uchelgeisiol ar gyfer ein gwasanaeth cyfan; o sut rydyn ni’n cynhyrchu ac yn defnyddio ynni, i sut rydyn ni’n lleihau ac ailddefnyddio gwastraff, a sut mae darparu gofal iechyd yn nes adref yn lleihau allyriadau carbon wrth deithio.

Dyma rai o’r cwestiynau allweddol sy’n cael eu gofyn fel rhan o’r her:

Sut gallwn ni gynhyrchu, lleihau a gwneud defnydd mwy effeithlon o’n hynni?

Sut gallwn ni wella’r ffordd rydyn ni’n lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu ein gwastraff?

Sut mae gwneud y pethau bychain? Beth allwn ni ei newid yn lleol? Lle mae angen i newidiadau mwy ddigwydd?

Sut gallwn ni deithio llai o bellter ac yn llai aml? Sut mae cefnogi teithio llesol neu deithio aml-ddull?

Dywedodd Linda Prosser, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid;

“Mae maint yr her sy’n ein hwynebu yn anferth ac allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydyn ni eisoes yn cydweithio gyda phartneriaid lleol i wella’r ffordd rydyn ni’n trin gwastraff a chynhyrchu ein hynni ein hunain, ond mae’n rhaid i ni wneud mwy.

“Dyna pam rydyn ni’n gofyn i’n staff, sef y bobl sy’n darparu ein gwasanaethau o ddydd i ddydd, rannu syniadau am y ffordd orau o wneud hyn drwy bob rhan o’r Bwrdd Iechyd.

“Rydyn ni hefyd eisiau gwybod beth fyddai’r cymunedau lleol yn hoffi i ni wneud, a dweud wrthyn ni sut yr hoffen nhw weithio gyda ni i adeiladu cymunedau gwyrddach, iachach gyda’n gilydd.”

Gall holl staff y Bwrdd Iechyd rannu eu syniadau drwy’r platfform syniadau SimplyDo ar y mewnrwyd staff.

Os ydych chi’n aelod o’r cyhoedd neu’n cynrychioli grŵp cymunedol lleol, gallwch chithau hefyd rannu eich syniadau, awgrymiadau a sylwadau yma: https://forms.office.com/r/n8ZKvBhMP1

Bydd yr arolwg hwn yn cau am 11:45yh ar 8 Rhagfyr.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
14/10/2022