Newyddion

06/09/21
Clinigau Clefyd Parkinson newydd yn Rhondda, Merthyr Tudful ac Aberpennar

Mae’r Gwasanaeth Nyrsio Arbenigol ar gyfer Clefyd Parkinson ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ehangu i gynnal clinigau yn Rhondda, Merthyr Tudful ac Aberpennar er mwyn ceisio darparu cymorth yn agosach i gartrefi cleifion.

01/09/21
Pêl-droed dan gerdded yn cychwyn eto yng Nghwm Clydach

Mae grŵp pêl-droed dan gerdded poblogaidd yn chwarae eto yn y Rhondda, ac yn gwneud gwahaniaeth penigamp i iechyd meddwl a chorfforol y cyfranogwyr.

31/08/21
Arolygon o foddhad a phrofiad o'r cyfleusterau – Ail-lansiad

Bydd yr Adran Cyfleusterau'n ail-lansio ei harolygon adborth o foddhad a phrofiad cleifion a chwsmeriaid ar 1 Medi 2021.

27/08/21
Blaenoriaethu ledled y DU ar gyfer profion gwaed brys

Mae prinder tiwbiau casglu gwaed ledled y DU sy'n effeithio ar bob Ysbyty a Meddygfa Teulu.

19/08/21
Gwobr Ganmoliaeth y Prif Swyddog Tân i Ysbyty Cwm Rhondda

Mae nyrsys a staff Ysbyty Cwm Rhondda wedi cael eu hanrhydeddu â Gwobr Ganmoliaeth gan Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dilyn eu dewrder ac ymateb cyflym.

17/08/21
Cartref Nyrsio Glyncornel yn dathlu llwyddiant gyda'r Tîm Gofal Lliniarol Arbenigol yn BIP CTM

Mae Cartref Nyrsio Glyncornel yn Nhonyrefail wedi llwyddo i gwblhau'r rhaglen addysg Chwe Cham i Lwyddiant. Mae’r rhaglen yn hybu Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes gyda chymorth Tîm Gofal Lliniarol Arbenigol BIP CTM, a dreialodd y rhaglen yn rhan o Raglen Mabwysiadu a Lledaenu Comisiwn Bevan.

16/08/21
Datganiad: Problemau o ran y cyflenwad cenedlaethol o diwbiau samplau gwaed.

Mae Cwm Taf Morgannwg UHB yn gweithredu i dawelu meddwl cleifion ynghylch y broblem hon ledled y DU.

16/08/21
Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg – cyrchu gofal Brys - Arolwg profiad claf

Mae Cynghorau Iechyd Cymuned (CICau) yn ceisio adborth yn rheolaidd gan gleifion a’r cyhoedd am eu gwasanaethau GIG.

11/08/21
Byddwch yn Egnïol RhCT – helpu pobl i wella eu hiechyd corfforol a'u hiechyd meddwl

Ioga, garddio, coedwriaeth (buschcraft), aerobeg ar gadair, dawnsio, meddwlgarwch a cherdded: dyma rai o'r sesiynau sy'n cael eu darparu gan brosiect partneriaeth Byddwch yn Egnïol RhCT i helpu pobl ledled Rhondda Cynon Taf i wella a chynnal eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl. 

02/08/21
Amseroedd aros ar gyfer gofal iechyd meddwl yn gwella ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae cleifion allanol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn cael gofal a chymorth iechyd meddwl yn gyflymach, gyda rhestrau aros ac amseroedd yn lleihau. Daw hyn yn dilyn adolygiad cynhwysfawr gan glinigwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

30/07/21
Cleifion a chlinigwyr Cwm Taf Morgannwg yn canu clod ymgynghoriadau fideo

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cynnal dros 17,500 o ymgynghoriadau fideo gyda chleifion yn ystod yr 11 mis diwethaf ac, yn ôl ymchwil newydd, mae cleifion a chlinigwyr yn gadarnhaol iawn am y gwasanaeth.

30/07/21
Mae gwasanaeth cymorth iechyd meddwl ar-lein yn gweld cynnydd o 46 y cant yn y bobl sy'n ceisio cymorth wrth i fwy o bobl gael mynediad at wasanaethau'r GIG yn ddigidol

Mae gwasanaeth iechyd meddwl a lles ar-lein wedi gweld cynnydd o 46% yn nifer y bobl yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sy’n gofyn am gymorth wrth i’r cyfyngiadau symud lacio ledled y wlad. 

27/07/21
Hysbysiad Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol - 29 Gorffennaf 2021

Dyma hysbysiad y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal ddydd Iau 29 Gorffennaf 2021 am 2pm.

27/07/21
Hysbysiad am Gyfarfod o'r Bwrdd – 29 Gorffennaf 2021

Dyma hysbysiad y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal Ddydd Iau 29 Gorffennaf 2021 am 10:00 am. 

19/07/21
Tŷ Enfys, uned o'r radd flaenaf ym Mharc Iechyd Keir Hardie, yn croesawu defnyddwyr gwasanaeth unwaith eto

Heddiw (19 Gorffennaf), ail-agorodd y drysau yn Nhŷ Enfys (Uned Ddydd 2 gynt) ym Mharc Iechyd Keir Hardie, a chafodd defnyddwyr groeso yno unwaith eto.

14/07/21
Dadorchuddio mainc yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg er cof am dad a mab

Mae mainc sydd wedi ei chreu er cof am dad a'i fab bach wedi cael ei dadorchuddio ar dir Ysbyty Brenhinol Morgannwg, y tu allan i'r adran lle bu farw'r babi.

13/07/21
Mae Cwm Taf Morgannwg UHB yn chwilio am geisiadau am Aelod Annibynnol newydd

Mae Cwm Taf Morgannwg UHB yn chwilio am Aelod Annibynnol newydd (Busnes Cyffredinol a Chorfforaethol) ar gyfer ei Fwrdd.

12/07/21
Mae Tywysog Cymru yn ymweld ag Uned Gofal Lliniarol Arbenigol NGS Mac Billan

Roedd staff, cleifion a'u hanwyliaid yn falch iawn o gael ymweliad gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru â'r uned gofal lliniarol o'r radd flaenaf sydd newydd ei datblygu yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yr wythnos hon.

12/07/21
Raffl i godi arian am bwll geni

Mae bydwragedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi mynd ati mewn ffordd arloesol i wneud yn siŵr bod menywod yn yr ardal sydd am roi genedigaeth mewn dŵr yn eu cartref yn gallu gwneud hynny.

01/07/21
Gwrando ar Rieni am Wasanaethau Newyddenedigol yn Cwm Taf Morgannwg

Yn ystod Gorffennaf 2021, mae'r Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol (IMSOP) yn cynnal arolwg i ddeall profiadau menywod a theuluoedd sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn ardal Cwm Taf Morgannwg.