Neidio i'r prif gynnwy

Pêl-droed dan gerdded yn cychwyn eto yng Nghwm Clydach

Mae grŵp pêl-droed dan gerdded poblogaidd yn chwarae eto yn y Rhondda, ac yn gwneud gwahaniaeth penigamp i iechyd meddwl a chorfforol y cyfranogwyr.

Mae prosiect pêl-droed gan gerdded y Cambrian Village Trust yn cael ei arwain gan yr hyfforddwr gwirfoddol Rob Jones ers ei sefydlu yn gynnar yn 2018. Roedd tua 20 o bobl yn cymryd rhan yn rheolaidd, ond pan darodd y pandemig, roedd yn rhaid rhoi stop i’r gemau ac roedd y grŵp wedi cadw mewn cysylltiad trwy negeseuon testun rheolaidd yn lle.

Bellach, wrth i’r cyfyngiadau lacio, mae'r prosiect wedi dechrau eto ac mae'r grŵp yn chwarae bob dydd Sul rhwng 11am a 12pm ar y cae 3G yn y Cambrian Village Trust yng Nghwm Clydach. Yn wir, mae’r chwaraewyr yn dweud eu bod yn gweld y manteision yn barod.

Dywedodd Mr Jones, 59, o Donypandy, “Mae'n wych bod pêl-droed dan gerdded yn ôl gyda’r cyfle i weld ffrindiau eto a wynebau newydd fel ei gilydd. Mae effaith bositif y fenter ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn amlwg i bawb ei ei gweld.

“Mae'r grŵp yn agored i bawb o bob oed ac yn cynnig cyfle i bobl wella eu lles a’u ffitrwydd.  Mae'n codi eich calon ac mae wedi bod yn galonogol clywed am y gwahaniaeth gwirioneddol y mae'n ei wneud i gynifer o'n cyfranogwyr.”

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn awgrymu pêl-droed cerdded i wella’ch iechyd corfforol a’ch lles meddyliol, ac mae grŵp Cambrian yn agored i unrhyw un, p’un a ydyn nhw wedi chwarae pêl-droed o’r blaen ai peidio.

Mae pobl o bob cwr o Rondda Cynon Taf a thu hwnt, gan gynnwys Caerdydd, Merthyr Tudful a Phort Talbot, wedi cymryd rhan yn y sesiynau sy'n costio dim mwy na £3.

Er bod y gêm wedi ei hanelu at bobl dros 50 oed gan fwyaf, mae pobl o bob oed yn cymryd rhan, o bobl yn eu harddegau i’r chwaraewr hynaf, sy’n 72 oed.

Ymunodd Huw Jones, 63 oed, â'r grŵp pêl-droed dan gerdded ar ôl cael diagnosis o ddiabetes a sylweddoli bod angen iddo newid ei ffordd o fyw.

Dywedodd, “Roeddwn yn pwyso 20 stôn, oedd yn bell o fod yn bwysau iach, ac roeddwn yn gwybod bod angen i mi newid fy niet gwael a dechrau ymarfer corff yn ara’ deg. Mae pêl-droed dan gerdded yn cyfuno fy hoffter o bêl-droed ac ymarfer awyr agored iach gyda chriw gwych o unigolion o'r un anian.

“Rydw i bellach yn pwyso o dan 15 stôn ac yn methu aros am foreau Sul boed glaw, cenllysg neu heulwen, i fod yn rhan o grŵp mor groesawgar a chyfeillgar. Mae’n werth yr ymdrech yn sicr.”

Dywedodd Tyrone Griffiths, 51, ei fod yn ffordd wych o gadw'n heini a gwella eich iechyd meddwl.

Dywedodd, “Mae gan y sesiynau pêl-droed dan gerdded y cyfan - hwyl, ffitrwydd a’r cyfle i gwrdd â phobl newydd. Mae'n grŵp cyfeillgar iawn ac mae croeso cynnes iawn i chi. Does dim ots am eich sgiliau pêl-droed yma, felly does dim pwysau arnoch chi. Rwy'n teithio taith 44 milltir o hyd bob bore Sul i gymryd rhan, ac a dweud y gwir yn blaen wrthych chi, mae'n werth pob milltir '.

Mae pob sesiwn yn dechrau gydag ymarferion cynhesu ac yna ymarfer sgiliau pêl-droed syml, cyn i’r gêm ddechrau ar gae o’r radd flaenaf gyda llifoleuadau sy’n sicrhau bod y tîm yn gallu chwarae drwy’r gaeaf. 
Cafodd y grŵp pêl-droed dan gerdded ei gychwyn yn rhan o brosiect iechyd dan arweiniad y Cambrian Village Trust o'r enw 'Strive and Thrive', ac un o'i brif nodau oedd annog pobl o bob oed a gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Dywedodd Sally Fowler, Rheolwr Partneriaeth Datblygu Cymunedol y Cambrian Village Trust, “Doedd llawer o bobl ddim wedi clywed am bêl-droed dan gerdded, ond mae'r sesiynau wedi newid syniadau a bywydau. Roedd llawer o bobl wedi lleisio eu barn yn y gorffennol yn dweud: Roeddwn bob amser yn meddwl ei bod ar gyfer dynion ifanc heini a dyw’r egni ddim gyda fi mwyach.

“Fodd bynnag, erbyn hyn mae'n wir nad yw nifer o bobl yn loetran ar ochr y cae, maen nhw ar y cae yn lle, yn mwynhau cyfeillgarwch y tîm ac yn gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol ar yr un pryd.” Mae’r gweithgaredd yn rhan o ystod o wasanaethau sydd ar gael yn y gymuned, sydd oll yn cael eu hyrwyddo fel rhan o ymgyrch #EichTîmLleol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o’r ystod o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gweithgareddau yn y gymuned all helpu cleifion heb orfod mynd i weld meddyg teulu. I ymuno â grŵp y Cambrian ffoniwch 01443 433853 neu e-bostiwch info.villagetrust@yahoo.com  ( dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm). I gael gwybod am ragor o weithgareddau sydd ar gael yn yr ardal, ewch i www.taffelycluster.com

*Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Alison Watkins trwy ffonio 07854 386054 neu e-bostio info@alisonwatkinscommunications.com