Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Ganmoliaeth y Prif Swyddog Tân i Ysbyty Cwm Rhondda

Mae nyrsys a staff Ysbyty Cwm Rhondda wedi cael eu hanrhydeddu â Gwobr Ganmoliaeth gan Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dilyn eu dewrder ac ymateb cyflym.

Yn oriau mân fore Sul 7 Mawrth 2021, cafodd diffoddwyr tân eu galw i achos o dân yn ward y Crucible yn yr ysbyty. Diolch byth, oherwydd ymateb cyflym a gwydnwch y staff, llwyddon nhw i symud pob un o'r 27 o gleifion ar y ward yn ddiogel heb unrhyw anafiadau difrifol.

Drwy ddefnyddio eu gwybodaeth am hyfforddiant tân, dilynodd y staff y protocol diogelwch drwy ddefnyddio’r llwybrau dianc a chau’r drysau tân, a helpodd hyn i atal y tân rhag lledaenu a pheryglu bywydau. O ganlyniad, dim ond un rhan o ward ysbyty roedd y tân wedi effeithio arni, a llwyddodd y diffoddwyr tân i ddiffodd y tân a diogelu'r ardal.

Cafodd y wobr ei chyflwyno i staff yr ysbyty gan y Prif Swyddog Tân, Huw Jakeway QFSM, ar 17 Awst 2021.

Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio BIP CTM, Greg Dix, "Mae pob aelod o staff CTM yn cael hyfforddiant diogelwch tân yn rheolaidd ac mae hyn yn dangos sut iddyn nhw ddefnyddio eu gwybodaeth er mwyn sicrhau diogelwch yr holl gleifion a'u cydweithwyr. Rydyn ni’n falch iawn o'u hymateb cyflym ac rydyn ni’n enghraifft wych o gydweithio. Rydyn ni hefyd yn falch iawn o gael cydnabyddiaeth gwobr y Prif Swyddog Tân."

Dywedodd Garry Davies, Pennaeth Adran Gweithrediadau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Mae'r wobr hon yn ganmoliaeth tîm i ddathlu eu hymroddiad, nid yn unig i amddiffyn eu cleifion, ond hefyd i gydweithio a helpu ei gilydd fel tîm. Mae'n hanfodol buddsoddi mewn hyfforddiant diogelwch tân gan fod hyn yn achub bywydau. Fel y swyddog sy'n gyfrifol am y digwyddiad yn yr ysbyty, helpodd ymateb cyflym staff yr ysbyty ar y pryd i gael pawb allan o’r adeilad, atal y tân rhag lledaenu a dychwelyd i normalrwydd ward yr ysbyty. Arhosodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar y safle i helpu i glirio effeithiau'r tân, a chawson nhw eu helpu gan dimau o'r ysbyty, sy'n dystiolaeth bellach o sut mae cydweithio'n cyflawni canlyniad cadarnhaol."

Meddai Leanne Davies, sy’n Uwch-nyrs ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

"Rydyn ni’n hynod o falch ac yn ddiolchgar i'n holl staff am eu hymateb ar noson y digwyddiad. Drwy weithio fel tîm, roedden nhw wedi sicrhau diogelwch y cleifion a’r staff ar y wardiau, a heb eu hymateb cyflym, gallai'r sefyllfa hon fod yn wahanol iawn. Aeth y staff dan sylw y filltir ychwanegol mewn sefyllfa na fyddai neb byth yn ei disgwyl nac yn gobeithio ei hwynebu. Maen nhw’n glod i ni ac maen nhw’n llawn haeddu'r ganmoliaeth hon. Roedd yn anrhydedd cael y wobr hon, sydd wedi atgyfnerthu dewrder a gwydnwch y staff wrth fynd i’r afael â sefyllfa beryglus."