Neidio i'r prif gynnwy

Arolygon o foddhad a phrofiad o'r cyfleusterau – Ail-lansiad

Bydd yr Adran Cyfleusterau'n ail-lansio ei harolygon adborth o foddhad a phrofiad cleifion a chwsmeriaid ar 1 Medi 2021.

Bydd yr arolygon adborth hyn yn rhoi cyfle i bob claf a defnyddiwr gwasanaeth roi eu barn ar wahanol agweddau ar bob gwasanaeth, fel ansawdd, urddas cleifion, glendid y wardiau, gwasanaethau arlwyo a phorthorion, yn ogystal â gwneud awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â sut i gynnal a gwella ein gwasanaethau lle bo angen.

Mae arolwg yn cael ei gynnal ar gyfer pob un o'r gwasanaethau canlynol:

Bydd posteri a chardiau gyda chod QR a dolenni i bob arolwg yn cael eu harddangos ar draws pob safle CTM lle bo'n briodol, a bydd dolenni'r arolwg hefyd yn cael eu hysbysebu ar ein mewnrwyd (Sharepoint) ac ar wefan CTM. Gall yr holl staff wneud yr arolygon drwy’r uchod a thrwy hafan yr Adran Cyfleusterau ar Sharepoint.

Pan fyddwch chi’n defnyddio gwasanaethau’r Adran Cyfleusterau, byddem ni’n ddiolchgar pe gallech chi gwblhau'r arolwg perthnasol o'r gwasanaethau rydych chi’n eu defnyddio ac annog ein cleifion a'n hymwelwyr i wneud yr un peth.

Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni a diolch am eich cymorth a'ch cefnogaeth.