Neidio i'r prif gynnwy

Byddwch yn Egnïol RhCT – helpu pobl i wella eu hiechyd corfforol a'u hiechyd meddwl

Ioga, garddio, coedwriaeth (buschcraft), aerobeg ar gadair, dawnsio, meddwlgarwch a cherdded: dyma rai o'r sesiynau sy'n cael eu darparu gan brosiect partneriaeth Byddwch yn Egnïol RhCT i helpu pobl ledled Rhondda Cynon Taf i wella a chynnal eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl. 

Nod rhaglen Byddwch yn Egnïol RhCT yw gwella lles pobl a’u hannog i wneud mwy o ymarfer corff drwy gynnig gweithgareddau syml yn y gymuned. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys cymorth un wrth un a sesiynau grŵp, sy’n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb o bob oedran a gallu. 

Er gwaethaf y cyfyngiadau yn sgil y pandemig, mae'r rhaglen wedi addasu ac wedi parhau i ddarparu ei gwasanaethau ar-lein drwy Zoom a chymorth un wrth un dros y ffôn. Erbyn hyn, wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, mae modd ailgyflwyno sesiynau yn y gymuned leol gan gadw pellter cymdeithasol. 

Meddai Steph Duffy, Swyddog Iechyd a Lles y gymdeithas dai leol RHA, sy'n rhan o’r sesiynau arwain tîm, “Mae'n bwysicach nawr nag erioed i ofalu amdanom ni ein hun. Mae ein hiechyd corfforol a’n hiechyd meddwl yn gydgysylltiedig ac maen nhw’n effeithio ar ei gilydd. Gall newidiadau bach yn ein bywyd, fel teithiau cerdded byr, gael effaith enfawr ar ein lles yn gorfforol ac yn feddyliol.  

“Rydyn ni’n gwybod pa mor anodd mae arwahanu cymdeithasol ac unigrwydd yn gallu bod, ac mae'r pandemig wedi ei gwneud hi’n anoddach nag erioed delio â hyn. Mae ein sesiynau ar-lein wedi bod yn gymorth mawr i lawer o bobl ac mae hi wedi bod yn fraint helpu cyfranogwyr ar yr adeg hon. 

“Byddwn ni’n parhau i gynnal gweithgareddau ar-lein ar gyfer y rheiny sydd am ymuno o gysur eu cartref, ond mae’n braf gyda ni lansio grwpiau newydd, fel teithiau cerdded iach, garddio ac ioga ar ei eistedd yn yr awyr agored. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl gysylltu â phobl eraill yn eu cymuned eto.”  

Ffordd gyffrous roedd Byddwch yn Egnïol RhCT yn gallu cyrraedd pobl a'u helpu i ymlacio drwy feddwlgarwch, yn ystod y pandemig, oedd dod â chwaraewyr mp3 i’r cyfranogwyr i’w cartrefi’n bersonol. Roedd y chwaraewyr mp3 yn cynnwys detholiad o ymarferion meddwlgarwch gafodd eu recordio ymlaen llaw. Roedd yr adborth o'r gweithgareddau hyn yn wych, a dywedodd bron pob un o'r cyfranogwyr eu bod nhw wedi cysgu’n well, pryderu’n llai a gwella eu gwytnwch.  

Mae Byddwch yn Egnïol RhCT hefyd wedi cydweithio â'r awdurdod lleol drwy Chwaraeon RhCT i gynnal cyrsiau iechyd a lles er mwyn helpu athrawon ar draws y gymuned. 

Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn, a dywedodd y cyfranogwyr fod eu hiechyd meddwl a chorfforol wedi gwella.  

Dywedodd un athro lleol: ‘Sesiwn anhygoel heno. Diolch. Hwb perffaith ar gyfer ein hiechyd meddwl yn ystod y cyfnod heriol hwn.’ 

Mae nifer o weithgareddau Byddwch yn Egnïol RhCT ar gael ar hyn o bryd; 

• Sesiynau ioga wythnosol bob nos Iau am 6pm  

• Ioga ar gadair bob dydd Mercher am 10am  

• Teithiau cerdded iach bob dydd Mawrth am 10am yn cychwyn o Stryd Fawr Tonypandy  

• Taith gerdded gymdeithasol iach bob nos Lun o Dreorci 

• Grwpiau garddio i ddechreuwyr 

• Grwpiau therapi yn y coetir 

• Ymarfer ar gadair bob dydd Mawrth am 10am 

Ychwanegodd Steph, “Mae'r sesiynau hyn yn agored i bawb yn y gymuned a gallan nhw eich helpu chi i gwrdd â phobl newydd a gwella'r ffordd rydych chi’n teimlo drwy fod yn fwy egnïol a chymryd camau bach i deimlo'n well.  

“Hoffwn i ddweud diolch yn fawr i’r rheiny sydd eisoes wedi ymuno â ni a dwi’n edrych ymlaen at groesawu hyd yn oed mwy o bobl.”  

Cafodd rhaglen Byddwch yn Egnïol RhCT ei lansio ym mis Gorffennaf 2019. Mae’n cael ei chynnal mewn partneriaeth gan RHA, Interlink RhCT, Partneriaeth Adfywio Ynys-y-bwl, Theatr Spectacle, Active Nutrition, Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian a Volunteering Matters. Mae’r prosiect yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy eu Cronfa Iach ac Egnïol.  

Mae’r gweithgareddau iechyd a lles yn rhan o ystod o wasanaethau sydd ar gael yn y gymuned, sydd oll yn cael eu hyrwyddo yn rhan o ymgyrch #EichTîmLleol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.  

Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth am yr ystod o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y gymuned all helpu cleifion heb orfod mynd i weld meddyg teulu. 

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook Byddwch yn Egnïol RhCT (Be Active RCT) www.facebook.com/BeActiveRCT, e-bostiwch BeActive@rhawales.com neu ffoniwch 01443 424272. 

*Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Alison Watkins trwy ffonio 07854 386054 neu e-bostio info@alisonwatkinscommunications.com