Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion a chlinigwyr Cwm Taf Morgannwg yn canu clod ymgynghoriadau fideo

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cynnal dros 17,500 o ymgynghoriadau fideo gyda chleifion yn ystod yr 11 mis diwethaf ac, yn ôl ymchwil newydd, mae cleifion a chlinigwyr yn gadarnhaol iawn am y gwasanaeth.

Cafodd yr ymchwil ddiweddaraf ei chynnal gan TEC Cymru gyda chleifion a chlinigwyr ynghylch y defnydd o ymgynghoriadau iechyd drwy fideo, yn ogystal â’u gwerth, eu manteisio a’u heriau. Mae'n ymwneud â'r cyfnod o 'gynyddu' ymgynghoriadau fideo ac yn dilyn ymchwil wnaed yn ystod y cyfnod blaenorol  o 'gyflwyno' y rhain.

Ar y cyfan yng Nghymru, canfu'r ymchwil fod ymgynghoriadau fideo:

  • yn parhau i fod yn boblogaidd iawn ymhlith cleifion a chlinigwyr (ychydig yn fwy ymhlith chleifion). Yn ardal BIP Cwm Taf Morgannwg, dywedodd 90% a mwy o gleifion y bydden nhw’n defnyddio hyn eto, a dim ond 1% ddywedodd na fydden nhw’n gwneud hynny
  • yn wasanaeth sy’n cael ei dderbyn ar draws amrywiaeth eang o sectorau gofal ac arbenigeddau, ac mae'n addas yn glinigol ar gyfer amrywiaeth eang o grwpiau demograffig o gleifion, beth bynnag fo’u statws iechyd, oedran, rhyw, ethnigrwydd, incwm cartref neu leoliad (trefol/gwledig)
  • wedi cael eu croesawu gan wasanaethau iechyd meddwl oedolion ledled Cymru, gyda dros 34,000 o ymgynghoriadau fideo wedi eu cynnal ledled Cymru.
  • yn dechrau ennill eu plwyf fel dewis hirdymor ac yn tueddu i ddwyn buddion sylweddol sy’n drech na’r heriau, heb os.

Yn ôl arolwg BIP Cwm Taf Morgannwg o gleifion, y fantais fwyaf cyffredin a nodwyd fel ‘buddiol iawn’ neu ‘buddiol’ gan gleifion oedd ‘cyfraddau heintio is’ (95.6%), oedd ychydig yn uwch na’r ganran ymhlith clinigwyr (92.1%) Disgrifiodd dros 90% o gleifion 'arbed teithio a pharcio' (92.9%) ac 'arbed yr amgylchedd' (93.3%) yn yr un modd. Eto, roedd hyn yn uwch na’r canrannau ymhlith clinigwyr (sef 75.6% a 67% yn y drefn honno). 

Yn ogystal â hynny, dywedodd mwy nag 80% fod 'arbed amser a pharatoi' (88.5%), 'mwy cyfleus' (88%), 'mynediad gwell at ofal' (86.1%), 'arbed arian' (83%), 'peidio â gorfod cymryd amser o'r gwaith/ysgol' (81.4%), 'gwell cyfranogiad gan y teulu' (81.4%) a 'llai o straen a gorbryder' (76.5%) yn fuddiol/buddiol iawn.

Ymhlith y buddion eraill gafodd eu disgrifio’n fuddiol (iawn) gan y rhan fwyaf o glinigwyr gafodd eu holi, roedd 'defnydd mwy effeithlon o'u hamser/lleoliad clinigol' (67.3%); 'gwell mynediad at ofal i gleifion' (64.9%); 'amseroedd aros llai' (62.4%); ‘llai o achosion lle nad yw cleifion yn dod i’w hapwyntiad’ (47.6%); a 'gwell cyfranogiad gan y teulu' (45.9%).

Pan gawson nhw eu holi ynglŷn â’r heriau ddaeth yn sgil ymgynghoriadau fideo, dywedodd 14.4% o gleifion yn ardal BIP Cwm Taf Morgannwg fod yr opsiwn o gael apwyntiad wyneb yn wyneb neu dros y ffôn yn berthnasol (iawn). O safbwynt clinigwyr, dywedodd 20.8% fod apwyntiad wyneb yn wyneb yn 'berthnasol iawn' neu'n 'berthnasol' i gleifion, a dywedodd 28.2% eu bod yn ‘berthnasol iawn’ neu’n ‘berthnasol’ iddyn nhw eu hunain.

Yr her leiaf cyffredin ymhlith cleifion oedd 'problemau o ran lle neu breifatrwydd' (atebodd 97.5.% 'ddim o gwbl') ac roedd heriau fel 'problemau gyda dyfeisiau, y rhyngrwyd neu broblemau gweledol neu sain' yn fach iawn i'r claf (yn amrywio o 1.1% i 6 % fel 'llawer'). Yn ogystal â hynny, yr heriau lleiaf i gleifion oedd 'diffyg hyder' wrth ddefnyddio ymgynghoriadau fideo a'r canfyddiad nad oedd y rhain 'yn addas yn glinigol' (dywedodd rhwng 1.5% a 2.8% iddyn nhw gael ‘llawer' o broblemau gyda hyn).

Yr her fwyaf cyffredin ymysg clinigwyr oedd problemau technegol sy'n ymwneud â sain, ansawdd lluniau, cysylltiad â’r rhyngrwyd neu’r ddyfais (atebodd rhwng 9.3% a 17% 'llawer'). Yr heriau lleiaf cyffredin ymysg clinigwyr oedd 'diffyg hyder' wrth ddefnyddio ymgynghoriadau fideo (91.3% 'ddim o gwbl') ac ystyried ymgynghoriadau fideo’n ‘anaddas yn glinigol' i'r claf; dywedodd cyn lleied â 7.5% fod yr her hon yn 'berthnasol iawn' neu'n 'berthnasol'.

Meddai Gemma Johns, Arweinydd Ymchwil a Gwerthuso TEC Cymru:

“Mae TEC Cymru yn dilyn dull graddol cadarn o'i Ymchwilio a'i Werthuso. Rydyn ni'n dysgu mwy wrth i ni symud trwy bob cam, a defnyddio pob set ddata i gefnogi Byrddau Iechyd lleol i wneud penderfyniadau mwy gwybodus i'w staff a'u cleifion. Yn yr adroddiad YF gwerthuso Cam 2a newydd, rydym wedi gallu plymio'n ddwfn i brofiadau cleifion a chlinigwyr a nodi sut mae'r buddion yn amlwg yn gorbwyso'r heriau. Rydym wedi gallu dangos pa mor dda y mae YF yn gweithio i'n cleifion a'n clinigwyr yng Nghymru, a hefyd y cyfle i herio llawer o ragdybiaethau ar allgáu digidol yng Nghymru.