Neidio i'r prif gynnwy

Dadorchuddio mainc yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg er cof am dad a mab

Mae mainc sydd wedi ei chreu er cof am dad a'i fab bach wedi cael ei dadorchuddio ar dir Ysbyty Brenhinol Morgannwg, y tu allan i'r adran lle bu farw'r babi.  

Roedd George Burke yn un flwydd, un wythnos ac un diwrnod oed pan fu farw mewn amgylchiadau trasig yn Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys yr ysbyty yn 2012 ar ôl cael ffit. Cyn lleied â phum diwrnod yn ddiweddarach, cymerodd ei dad, Paul, ei fywyd ei hun. Erbyn hyn, mae mainc arbennig sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd wedi ei gosod i’w coffáu nhw, a’i nod yw rhoi man dawel y tu allan i’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys i gleifion, perthnasau a’r staff.  

Mae'r fainc, gafodd ei dadorchuddio gan weddw Paul a mam George, Rhian Mannings MBE, yn un o 12 o feinciau sydd wedi eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol. Mae’r meinciau hyn, gafodd eu creu gan y dylunydd cyfarwydd Jay Blades, wedi eu gosod ledled y DU. Mae enw Rhian a’r geiriau “Support – never forgetting the family that is here” wedi eu hengrafio ar y fainc, sy’n un o ddwy o’r meinciau hyn yng Nghymru. Yn ogystal â hynny, mae plac Braille a chod QR arni er mwyn i ymwelwyr gael gwybod mwy.  

Ar ôl marwolaeth Paul a George, mae Rhian, sy'n fam i ddau o blant eraill ac sydd wedi ailbriodi ers hynny, wedi mynd ati i helpu cannoedd o deuluoedd eraill mewn profedigaeth gyda'i helusen 2 Wish Upon a Star.  

Mae'r elusen o Lantrisant yn cynnig cyngor, cymorth a chwnsela i'r rheiny mae marwolaeth sydyn a thrawmatig plentyn neu oedolyn ifanc o dan 25 oed wedi effeithio arnynt. Yn ogystal â hynny, mae’r elusen yn gweithio gyda'r gwasanaethau brys ac adrannau damweiniau ac achosion brys i ddarparu hyfforddiant i’r staff ac i sicrhau bod ystafelloedd profedigaeth ar gael.  

Logo 2 Wish Upon a Star yw eliffant, a’i arwyddocâd yw mynd i'r afael â'r 'eliffant yn yr ystafell' o ran marwolaeth sydyn a hefyd oherwydd 'dydy eliffantod byth yn anghofio'. Mae’r elusen hefyd yn rhoi cymorth i Rhoi Organau Cymru a theuluoedd sy'n ymwneud â rhoi organau. 

Meddai Rhian: “Rwy’n falch iawn fod y Loteri Genedlaethol wedi dewis ein stori ni ar gyfer un o’r meinciau hyfryd hyn. Roedd yn bwysig i mi fod y fainc yn cael ei gosod y tu allan i’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys, lle bu farw George, a gobeithio ei bod hi’n rhoi cysur a seibiant i deuluoedd eraill sy’n wynebu sefyllfaoedd anodd. 

“Mae hi'n edrych yn fendigedig yn y rhan o’r ardd mae’r staff wedi ei chreu, a hoffwn i ddiolch i bawb yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg sydd wedi gweithio mor galed i drefnu hyn, yn enwedig yn ystod y pandemig.” 

Meddai Rheolwr Ystadau Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Mark Furmage: “Fel Bwrdd Iechyd ac adran, roedden ni’n awyddus i wneud hyn i Rhian a'i theulu a gwneud y lle yn arbennig ar eu cyfer nhw.  

“Mae sawl adran wedi dod ynghyd i gydweithio ar hyn ac mae’r gwaith tîm wedi bod yn wych. Yn benodol, mae’r garddwr Adam Johns wedi gweithio’n galed iawn ar yr ardd o gwmpas y fainc, ynghyd â’i dad David, sydd wedi ymddeol ar ôl gweithio i’r GIG am 40 mlynedd ac wedi neilltuo ei amser ei hun i helpu gyda’r gwaith.” 

Cafodd mainc Rhian ei dadorchuddio yn ystod digwyddiad bach yn yr awyr agored, gyda phawb yn cadw pellter cymdeithasol. Daeth Rhian a’i rhieni i’r digwyddiad, yn ogystal â staff yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys a’r cyflwynydd teledu Gethin Jones.