Neidio i'r prif gynnwy

Cartref Nyrsio Glyncornel yn dathlu llwyddiant gyda'r Tîm Gofal Lliniarol Arbenigol yn BIP CTM

Mae Cartref Nyrsio Glyncornel yn Nhonyrefail wedi llwyddo i gwblhau'r rhaglen addysg Chwe Cham i Lwyddiant. Mae’r rhaglen yn hybu Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes gyda chymorth Tîm Gofal Lliniarol Arbenigol BIP CTM, a dreialodd y rhaglen yn rhan o Raglen Mabwysiadu a Lledaenu Comisiwn Bevan.

Gan ganolbwyntio ar gartrefi gofal a thimau gofal yn y cartref er mwyn sicrhau canlyniadau gwella ansawdd a phrofiadau o ansawdd i unigolion a theuluoedd ar ddiwedd eu hoes, nod y rhaglen Chwe Cham i Lwyddiant yw gwella gwybodaeth, sgiliau, hyder a mynediad at ofal lliniarol a gofal diwedd oes sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a hynny drwy gydol y rhaglen addysg. Mae'r rhaglen yn defnyddio chwe gweithdy safonedig craidd, cynllunio gofal o flaen llaw, rhag-gynllunio gofal, gofal diwedd oes o ansawdd a chymorth profedigaeth yn eu lleoliadau gofal.

Meddai Lisa Wooler, Rheolwr Moderneiddio Gofal Diwedd Oes Macmillan, "Dylai Jacqui a Serena a'r holl staff yng Nghartref Nyrsio Glyncornel fod yn falch iawn o'r cyrhaeddiad hwn, er gwaethaf y rhwystrau niferus oherwydd y pandemig wrth gynnal y rhaglen a'r rhwystrau mae’r cartrefi gofal eu hunain wedi eu hwynebu. Maen nhw wedi dangos ymrwymiad i helpu eu preswylwyr i gyflawni beth sydd bwysicaf iddyn nhw ar ddiwedd eu hoes."

Ychwanegodd Rebecca Spicer-Thomas, sy’n Uwch-nyrs Gofal Lliniarol Arbenigol ac yn Ymarferydd Cyswllt Cyntaf, "Mae'n amlwg bod yr hyfforddiant wedi bod yn ddefnyddiol. “Mae Jacqui a Serena wedi rhannu’r hyn maen nhw wedi ei ddysgu â'u tîm ac wedi grymuso'r staff a'r preswylwyr yn y cartref i siarad yn agored am eu dymuniadau a’u cynlluniau ar gyfer diwedd eu hoes. Mae'r holl drigolion bellach wedi cael cynnig cyfle i rannu beth sydd bwysicaf."

Mae rhagor o wybodaeth i gartrefi gofal sydd â diddordeb mewn ymgymryd â'r Rhaglen 6 Cham ar https://adopt-and-spread.bevancommission.info/six-steps-palliative-and-end-of-life-care-support/