Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad am Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol 29 Gorffennaf 2021

Dyma hysbysiad y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal ddydd Iau 29 Gorffennaf 2021 am 2pm. O ganlyniad i’r ymateb parhaus i bandemig COVID-19, bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Microsoft Teams. Dyma gyfle i bawb gyda mynediad i’r rhyngrwyd arsylwi mewn amser real drwy’r ddolen ganlynol:

Dolen i’r digwyddiad byw

Bydd y cyfarfod yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf a rhannu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Yn ogystal â hynny, byddwch chi’n cael cyfle i holi cwestiynau i ni, trwy gyflwyno eich cwestiynau ymlaen llaw neu eu postio nhw'n ddigidol ar y diwrnod. Mae modd cyflwyno cwestiynau ymlaen llaw drwy e-bostio ctm_corporate_governance@wales.nhs.uk erbyn 22 Gorffennaf 2021, neu drwy bostio neges sydyn yn ystod y digwyddiad byw.

Rydyn ni’n mawr obeithio y byddwch chi’n gallu ymuno â ni.

Fel mynychwyr, cewch wylio’r cyfarfod ar Microsoft Teams ar ddangosfwrdd (Windows neu Mac), ar y we neu ar ddyfais symudol. Os nad oes Microsoft Teams gennych, gallwch ddefnyddio porwr (Chrome, Firefox neu Edge). Nid yw’n gweithio ar Safari ar hyn o bryd.

osoft - bwrdd gwaith (Windows neu Mac), gwe, neu symudol. Os nad oes gennych Dimau Microsoft, gallwch hefyd ddefnyddio porwr (Chrome, Firefox, neu Edge). Sylwch nad yw Safari yn cael ei gefnogi ar hyn o bryd.