Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad: Problemau o ran y cyflenwad cenedlaethol o diwbiau samplau gwaed.

Efallai eich bod wedi darllen yn y newyddion fod problem o ran y cyflenwad cenedlaethol ar gyfer tiwbiau casglu samplau gwaed.

Mae hyn yn effeithio ar ein hysbytai ac ar ein meddygfeydd.

Rydym yn ymwybodol o'r broblem hon ac rydym yn gweithio'n agos gyda'n timau clinigol i sicrhau ein bod yn cymryd camau priodol i reoli’r cyflenwad o’r cynhyrchion hyn ar hyn o bryd.

Gallwn ni eich sicrhau y byddwn ni’n parhau i gymryd samplau o waed cleifion y mae angen gwneud hyn ar eu cyfer yn rhan o'u gofal a'u triniaeth.

Diolch am eich cymorth.