Neidio i'r prif gynnwy

Ymwybyddiaeth o iechyd meddwl i reolwyr

Mae’n braf gan y Gwasanaeth Lles gynnig hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl i Reolwyr, er mwyn helpu rheolwyr i roi cymorth i weithwyr ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg. ​Bydd y sesiwn Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl i Reolwyr yn helpu rheolwyr i ddeall:

  • Beth yw iechyd meddwl?
  • Anawsterau cyffredin fel gorbryder ac iselder, a sut gallen nhw effeithio arnom ni?
  • Effaith problemau iechyd meddwl yn y gweithle
  • Sut i hybu diwylliant o les emosiynol cadarnhaol yn eich tîm
  • Sut i roi cymorth i aelodau o’r staff sy'n cael trafferth gyda'u lles emosiynol

Bydd angen i bobl gymryd rhan mewn hyfforddiant fydd yn para am un diwrnod, a bydd rheolwyr yn cael rhagor o fanylion ynghylch ffynonellau eraill o gymorth lles sydd ar gael i’r staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. ​Oherwydd y pynciau sensitif sy’n cael eu trafod yn ystod yr hyfforddiant, rydyn ni’n argymell bod lefel briodol o les gyda’r cyfranogwyr cyn dod i’r sesiwn.

Er bod rhannu profiadau’n gallu hybu’r hyfforddiant, rhaid i’r cyfranogwyr fod yn ymwybodol mai nod Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl i Reolwyr yw helpu rheolwyr i roi cymorth i aelodau o’r staff allai fod yn cael trafferth. Dydy hon ddim yn sesiwn therapi i’r cyfranogwyr, mae hyn er cysur pob cyfranogwr.

Rydyn ni wedi cael sawl ffurflen adborth gan reolwyr sydd wedi bod ar y cwrs MFA.

  • “Cafodd y sesiwn ei strwythuro’n dda ac roedd yr hyfforddwyr yn llawn gwybodaeth. Dysgais i strategaethau defnyddiol ar gyfer rhoi cymorth i bobl gyda phryderon o ran eu lles.”
  • “Roedd y cwrs yn addysgiadol iawn a chefais i arweiniad rhagorol o ran sut i reoli fy iechyd meddwl fy hun ac iechyd meddwl pobl eraill.”
  • “Dysgais i lawer o bethau o'r cwrs er mwyn myfyrio ar fy ymddygiad a fy arddull reoli. Rwy'n gwerthfawrogi ymdrech aruthrol pawb helpodd i greu a chynnig yr wybodaeth hon.”
  • “Rydw i wedi mwynhau'r cwrs hwn yn fawr ac rwy'n teimlo fy mod wedi dysgu sut i helpu fy nhîm a fi fy hun yn effeithiol. Rydw i hefyd yn teimlo'n dawel fy meddwl nad oes disgwyl i mi fod â’r holl atebion a bod y cymorth ar gael yn hawdd. Mae angen i mi sylwi ar bethau a bod yn gyfforddus wrth gael sgyrsiau anodd a chyfeirio am gymorth.”

Mae rheolwyr yn gallu mynegi a chofrestru eu diddordeb mewn dod i sesiwn drwy e-bostio CTM.MHFAStaffWB@wales.nhs.uk 

 

Dilynwch ni: