Neidio i'r prif gynnwy

Bythau i reolwyr

Mae'r Tîm Lles yn cydnabod yn fwyfwy yr angen i hybu iechyd a lles rheolwyr, ac maen nhw wedi datblygu gwasanaeth sy'n cynnig hynny i reolwyr a/neu grwpiau rheoli unigol. Mae ein bythau rheoli’n cynnig man lle gall timau rheoli neu/a rheolwyr siarad yn onest ac yn agored am eu hanawsterau a’u problemau yn y gwaith. Yma, bydd rheolwyr yn cymryd seibiant o’u dyletswyddau rheoli, ac yn trafod eu lles a'u gofal eu hunain, ac yn ystyried ffyrdd o symud ymlaen yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Rydyn ni wedi cael sawl ffurflen adborth ynglŷn â'r bythau rheoli.

  •  “Sesiwn wych. Awyrgylch cyfeillgar gyda syniadau croesawgar. Byddwn i'n argymell hyn yn fawr.”
  • “Diolch am roi amser a lle diogel i ni drafod ein heriau. Offer gwych ac adeiladol.”
  • “Roedd hwn yn le gwerthfawr iawn i rannu heriau/rhwystredigaethau cyffredin.”
  • “Mae'r bwcedi straen a gwytnwch a bod â’r system gymorth i wirio bod pethau’n gwneud synnwyr yn adnodd gwych.”

I drefnu slot, defnyddiwch y ddolen hon.

Dilynwch ni: