Neidio i'r prif gynnwy

Slotiau ymgynghori a chymorth i reolwyr

Mae’r slotiau ymgynghori hyn ar gael i reolwyr sydd am gael cyngor ynglŷn â sut i roi cymorth i aelod penodol o'u tîm sy'n cael trafferth gyda'i les. Gall hyn gynnwys trafod pa gymorth mae rheolwyr yn gallu ei gynnig ac ystyried pa gymorth penodol sydd ar gael ar gyfer yr aelod o'u tîm.

Mae’r slotiau hyn yn gallu bod yn ddefnyddiol hefyd os ydych chi'n rheolwr sy'n ei chael hi'n anodd yn eich rhinwedd eich hun yn ystod y cyfnod anodd hwn. Os ydych chi’n cael trafferth gyda'ch lles, rydyn ni’n cydnabod ei bod hi’n anoddach o lawer roi cymorth i aelodau o'ch tîm gyda'u lles nhw. Mae rheolwyr yn aelodau o’r staff hefyd, ac mae modd defnyddio'r amser hwn i drafod pa gymorth sydd ar gael i chi.

Rydyn ni wedi cael sawl ffurflen adborth gan reolwyr sydd wedi dod i'r sesiynau ymgynghori.

  • “Roedd neilltuo’r amser hwn wedi rhoi cyfle i bob un ohonom ni drafod a rhannu ein teimladau ynglŷn â’r golled ddinistriol rydyn ni wedi ei dioddef.”
  • “Roedd Emma yn hollol wych. Wnaeth hi ddim gorfodi dim arnom ni ac roedd hi’n llawn gwybodaeth.”
  • “Roedd hi’n addysgiadol ac yn hynod o ddefnyddiol. Doeddwn i ddim yn siŵr beth i'w ddisgwyl, ond roedd hi’n llawn cyffro a bydda i’n ei hargymell i weddill y timau ac i bobl eraill, heb os.”

Mae’r slotiau’n para am 45 munud gyda seicolegydd clinigol o'r Tîm Lles, a bydd y cyfan dros Teams.

Os hoffech chi drefnu slot, e-bostiwch CTM.WellbeingService@wales.nhs.uk

 

 

Dilynwch ni: