I lawer ohonom ni, mae’r menopos yn effeithio arnom ni bob dydd, gartref ac yn y gwaith. Fodd bynnag, rydyn ni’n teimlo gormod o embaras i siarad amdano, neu rydyn ni’n ceisio cael hwyl amdano pan allwn ni ddim cuddio'r ffaith fod symptomau gyda ni. Cafodd Menopos yn CTM ei sefydlu ar ôl sylweddoli nad yw hyn yn ddigon da i'n gweithwyr yn CTM.
Rydyn ni’n frwdfrydig dros leihau'r stigma a'r tabŵ sy'n ymwneud â’r menopos, drwy dynnu sylw at y pwnc a gwella gallu gweithwyr i gael gwybodaeth er mwyn iddyn nhw ddeall effaith y menopos a chael cymorth priodol.
Mae’r menopos yn effeithio ar fenywod, yn ogystal â’u teulu, eu ffrindiau, eu cyfoedion a’u cydweithwyr. Mae'r Tîm Lles yn CTM, yn ogystal â chydweithwyr eraill sydd â diddordeb, wedi cyflwyno amrywiaeth o fecanweithiau cymorth i hwyluso'r daith drwy’r menopos. Maen nhw hefyd yn cynnwys datblygu cyrsiau hyfforddi a hafan wybodaeth, fel llwyfan i ddatblygu cymorth cadarn sy'n ystyrlon i'r rheiny sy'n mynd trwy’r menopos ac i’r rheiny mae’r menopos yn effeithio arnyn nhw.
Mae Menopos yn CTM yn ffordd organig a holistaidd o reoli’r menopos, gan ymateb i ran naturiol o fywyd menyw. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y cymorth hwn yn annog ac yn grymuso menywod i roi caniatâd iddyn nhw wynebu’r menopos mewn ffordd sy'n ystyrlon iddyn nhw a heb gywilydd nac embaras.
Am fanylion ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael, gweler isod.